Wayne David (llun o'i wefn)
Mae Aelod Seneddol o’r Blaid Lafur wedi cyfaddef iddo dynnu arwyddion Plaid Cymru o erddi etholwyr.
Mae Plaid Cymru wedi cwyno wrth Heddlu Gwent ar ôl i Wayne David, Aelod Seneddol Caerffili, gymryd yr arwyddion.
Mae’r ras yn yr etholaeth yn un agos rhwng yr Aelod Cynulliad blaenorol, Jeff Cuthbert, ac ymgeisydd Plaid Cymru, sef cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies.
Dywedodd Lindsay Whittle o Blaid Cymru, Arweinydd Cyngor Caerffili, wrth Golwg 360 ei fod wedi clywed bod ymgyrchwyr Llafur wedi bod yn rhoi pwysau ar etholwyr i dynnu’r arwyddion i lawr.
Caniatâd
“Roedd Plaid Cymru wedi cnocio ar y drysau a chael caniatâd gan bobol i roi’r arwyddion y tu allan i’w tai,” meddai.“
Mae tynnu’r arwyddion hyn i lawr yn ymyrryd â’r broses ddemocrataidd. Mae Llafur yn dechrau poeni nawr fod gan Ron Davies gefnogaeth.
“Rydyn ni wedi gadael i’r heddlu wybod a delio gyda’r peth – ac wedi rhoi’r arwyddion yn ôl.
“Mae’r math yma o ymddygiad gan Aelod Seneddol etholedig yn hollol annerbyniol. Mae hyn yn sefyllfa ddifrifol a dydi o ddim yn mynd i fynd i ffwrdd.”
‘Heb ganiatâd’
Honnodd yr AS Wayne David wrth bapur newydd y Western Mail ei fod wedi mynd ati i dynnu’r arwyddion i lawr oherwydd bod nifer “anghyfartal” ohonyn nhw.
Dywedodd ei fod ef ac ymgyrchwyr eraill y Blaid Lafur wedi tynnu tua 15 o arwyddion i lawr ac yn bwriadu mynd â nhw at yr heddlu.
Ychwanegodd y byddai ef ei hun yn gwneud cwyn i’r heddlu ar ôl i un o ymgyrchwyr Plaid Cymru dynnu llun ohono gydag arwydd Plaid yng nghefn ei gar.
‘Anghyfartal’
“Mae yna nifer anghyfartal o arwyddion Plaid Cymru wedi eu codi yng Nghwm Rhymni,” meddai.
“Rydyn ni hefyd wedi derbyn adroddiadau fod Plaid wedi bod yn eu codi nhw heb ganiatâd pobol.
“Rydyn ni wedi bod yn curo ar ddrysau pobol sy’n dangos arwyddion Plaid Cymru sydd yn ôl ein cofnodion ni yn cefnogi’r Blaid Lafur.
“Mewn rhai achosion mae pobol wedi bod yn hapus i ni fynd a’r arwyddion i ffwrdd. Dim ond gyda’u caniatâd nhw yr ydyn ni wedi mynd â’r arwyddion.”