Y Prif Weinidog Stephen Harper
Mae disgwyl i Blaid Geidwadol y Prif Weinidog, Stephen Harper, ennill mwyafrif yn etholiad cyffredinol Canada.
Mae’r cyfrif yn dal i fynd rhagddo ond mae’r Ceidwadwyr eisoes wedi ennill 167 o’r 308 etholaeth yn y wlad.
Mae disgwyl i’r Blaid Ddemocrataidd Newydd ddod yn ail, a’r Rhyddfrydwyr yn drydydd, yn ôl adroddiadau o’r wlad.
Bydd gan blaid Stephen Harper fwyafrif am y tro cyntaf, ar ôl arwain dwy lywodraeth leiafrifol ers 2006.
Pleidleisiodd pobol Canada ddydd Llun am y pedwerydd tro mewn saith mlynedd.
Y Rhyddfrydwyr oedd y brif wrthblaid yn ystod y senedd ddiwethaf ond mae’r Blaid Ddemocrataidd Newydd yn debygol o gipio’r ail safle eleni.
Roedd y polau piniwn wedi awgrymu y byddai’r Ceidwadwyr yn cipio grym unwaith eto ond yn ei chael hi’n anodd cael mwyafrif.