Carwyn Jones - dewis anodd?
Mae’r pôl piniwn diweddara’n awgrymu y bydd Llafur yn methu â chael mwyafrif clir yn y Cynulliad nesa’.
Mae’r ffigurau’n dangos bod Llafur wedi colli rhywfaint o gefnogaeth yn ystod yr ymgyrch ond mai hi fydd y blaid fwya’ o bell.
Yn ôl arolwg ITV/YouGov i raglen Y Byd ar Bedwar, mae Llafur bellach ar 45 pwynt yn yr etholaethau, i lawr o 49 yn yr arolwg diwetha’. Mae hi ar 41% yn y rhanbarthau
Fe allai hynny olygu 30 o seddi – union hanner y cyfanswm – gan orfodi’r Prif Weinidog Carwyn Jones i benderfynu ceisio llywodraethu heb gymorth neu fynd am glymblaid arall.
Ceidwadwyr yn ail
Os yw’r ffigurau’n agos ati, y Ceidwadwyr fyddai’n ail gyda 21% yn yr etholaethau a chyfanswm o 15 sedd a Phlaid Cymru’n drydydd ar 18% yn yr etholaethau ac 11 sedd i gyd.
Mae dirywiad y Democratiaid Rhyddfrydol i’w weld yn parhau – i lawr i 8% yn yr etholaethau a 7% yn y rhanbarthau, yn gyfartal â’r blaid wrth-Ewropeaidd UKIP.
Roedd YouGov wedi holi mwy na 1,100 o bobol wythnos yn ôl ond dyw’r ffigurau ddim yn ddigon mawr i broffwydo etholaethau unigol.
Fe allai hynny olygu fod y darlun yn wahanol iawn yn rhai o’r rheiny ac fe allai hynny newid cyfanswm y seddi yn y pen draw.