Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi galw ar bleidleiswyr i ddefnyddio’r etholiadau ddydd Iau er mwyn rhoi cic i’r Blaid Geidwadol yn San Steffan.
Dywedodd Ed Miliband fod Llywodraeth David Cameron yn bwrw ymlaen â diwygiadau “di-hid” nad oedd ganddyn nhw fandad etholiadol i’w gweithredu.
Roedd yr etholiadau datganoledig yng Nghymru a’r Alban, yn ogystal â’r etholiadau lleol yn Lloegr, yn gyfle i bobol “roi eu barn ar addewidion toredig y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd”.
Roedd rhaid i farn yr etholwyr fod yn ddigon damniol i orfodi’r glymblaid yn San Steffan i ail-ystyried eu cynlluniau, meddai.
Dywedodd mai sioe oedd anghytundeb Cameron a Clegg dros y refferendwm ar y bleidlais amgen a’u bod nhw’n cytuno’n llwyr ar y toriadau i wariant cyhoeddus.
“Mae yna ddewis arall i ganiatáu i Nick Clegg a David Cameron balu ymlaen â phethau fel y maen nhw,” meddai.
“Rhaid pleidleisio Llafur ac anfon neges glir i’r llywodraeth nad oes ganddyn nhw fandad i wneud nifer o’r pethau y maen nhw’n eu gwneud.”