Mae 45 o bobol wedi’u harestio yng Nghaerdydd yn dilyn cyrch gan yr heddlu fore heddiw.

Cafodd y cyrchoedd eu cynnal yn rhan o Ymgyrch Fulcrum Heddlu De Cymru, a arweiniodd at arestio 60 o bobol yn ystod mis Chwefror eleni.

Bu swyddogion yn gweithio mewn timau ledled y brifddinas er mwyn dal pobol yn gysylltiedig â throseddau byrgleriaeth, yfed a gyrru, lladrata, dwyn ceir a chyffuriau.

Ymysg y bobol cafodd eu harestio oedd dau ddyn wnaeth ddwyn gemwaith o dŷ ym Mhenarth a dau ddyn arall oedd yn gysylltiedig â throsedd dwyn o geir.

“Rydym o hyd yn ceisio dod o hyd i bobol rydym yn amau o fod wedi troseddu. Dyma’r ail gyrch o’i fath mewn dau fis, ac r’yn ni’n bwriadu cynnal mwy yn y dyfodol,” meddai’r Prif Arolygydd Karl Eenmaa.