Mae Allan V Evans yn fodlon aros tan farwolaeth Elizabeth II cyn hawlio ei ystad
Mae dyn o America wedi prynu hysbyseb ym mhapur newydd The Times i hysbysu mai ef yw brenin go iawn gwledydd Prydain.
Yn ôl Allan V Evans o dalaith Colorado yn yr Unol Daleithiau, mae’n ddisgynnydd i Cunedda Wledig a sefydlodd deyrnas Gwynedd yn y drydedd ganrif.
Yn ei hysbyseb mae’n rhoi 30 diwrnod o rybudd i bobol gwledydd Prydain ei fod am ddychwelyd at ei wreiddiau a dod yn Frenin Cymru a Theyrnas Prydain.
Er hynny, mae wedi dweud y bydd yn aros tan i Frenhines Lloegr, Elizabeth yr ail, farw’n gyntaf cyn mynnu cael dod yma i deyrnasu – hynny er mwyn dangos parch iddi hi â’i gŵr, y Tywysog Philip.
Ei ystâd
Dywed Allan V Evans hefyd y bydd yn dod yn ôl i hawlio tiroedd eraill hanesyddol sy’n perthyn iddo, sy’n cynnwys 17 o wahanol ystadau ledled gwledydd Prydain.
“Dyma’r amser i’r Brenin ddychwelyd,” meddai, ar ddiwedd ei hysbyseb.