(llun: Cyngor y Ddinas)
Mae disgwyl i gabinet Cyngor Caerdydd gymeradwyo cynllun uchelgeisiol yr wythnos nesaf i annog llawer mwy o bobl i ddefnyddio beiciau i deithio yn y ddinas.
Nod y Cyngor yw cael hanner y rhai sy’n gweithio yn y ddinas ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu feicio neu gerdded erbyn 2021, ac mae targed o 60% wedi’i osod ar gyfer 2026.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd, y Cynghorydd Ramesh Patel: “Mae Caerdydd yn ddinas berffaith ar gyfer beicio a cherdded. Does dim amheuaeth bod gormod o geir ar ein ffyrdd, ac wrth i’r ddinas dyfu ni all ein ffyrdd gynnal mwy a mwy o gerbydau.”
Dywedodd fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn beicio dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
“Yn 2005, dim ond 4.3% o gymudwyr Caerdydd oedd yn teithio i’r gwaith ar feic,” meddai. “Heddiw mae 9.2% yn beicio i’r gwaith. Mae ein strategaeth yn nodi sut rydym yn bwriadu dyblu’r ffigur hwn eto i dros 18% erbyn 2026. Golyga hyn y bydd angen i’r rhwydwaith wneud lle ar gyfer 38,000 o deithiau beic ychwanegol bob diwrnod.”
Mapiau
Mae mapiau sy’n dangos cynlluniau’r cyngor ar gyfer beicwyr a cherddwyr i’w weld ar www.caerdydd.gov.uk/teithiollesol.
Bwriad y cyngor yw buddsoddi mewn dau prif lwybr – un o’r gogledd i’r de, a’r llall o’r dwyrain i’r gorllewin.
- Mae’r prif lwybr Gogledd-De yn dechrau ym Mae Caerdydd ac yn cysylltu ag Ardal Fenter Caerdydd a Chanol y Ddinas. I’r gogledd o ganol y ddinas bydd y llwybr yn cysylltu Prifysgol Caerdydd ag Ysbyty’r Waun a gorsafoedd trên Lefel Uchel y Mynydd Bychan a Lefel Isel y Mynydd Bychan, cyn pasio drwy goridor Nant Fawr i gysylltu â’r datblygiad tai mawr a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar dir rhwng Llys-faen a Phontprennau.
- Bydd y prif lwybr Dwyrain-Gorllewin yn cysylltu’r safle cyflogaeth mawr i’r de o Barc Busnes Llaneirwg â Chanol y Ddinas drwy lwybr beicio newydd drwy Heol Casnewydd. I’r gorllewin o Ganol y Ddinas bydd y prif lwybr yn pasio drwy gaeau Pontcanna a Llandaf cyn cysylltu â’r safleoedd tai mawr i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Bentre-baen drwy Llantrisant Road ac ar hyd llwybr y rheilffordd segur i’r gorllewin o Waterhall Road. Bydd y llwybr yn croesi’r prif lwybr Gogledd-De yng Nghanol y Ddinas.
Os caiff yr adroddiad ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Iau, bydd Cyngor y Ddinas yn cyhoeddi arolwg ar-lein i gasglu barn y cyhoedd ac yn cynnal sesiynau galw heibio ym mis Chwefror i gyhoeddi mapiau beicio a cherdded y Rhwydwaith Integredig.