Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau mewnfudo ar ôl i’w cerbyd gael ei stopio gan yr heddlu ar yr M4.

Cafodd Heddlu Gwent eu hysbysu am y sefyllfa am 2.10 brynhawn ddydd Llun a chafodd yr oedolion, gan gynnwys gyrrwr y cerbyd, eu harestio ar amheuaeth o fod yn y wlad yn anghyfreithlon.

Roedd y cerbyd wedi cyrraedd Cyffordd 23 ar yr M4 cyn cael ei atal gan yr heddlu.  Roedd 11 o bobol yn y cerbyd gan gynnwys babi.

Mae swyddogion yn cynnal ymchwiliadau er mwyn darganfod a yw’r teithwyr yn fewnfudwyr ai peidio.