Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae Boris Johnson wedi dweud bod ethol Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau’n cynnig “cyfle” i Brydain.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor Prydain, “whinge-o-rama” yw’r pryderon ledled Ewrop ynghylch ei ethol.

Roedd Johnson wedi gwrthod mynd i gyfarfod brys o Weinidogion Tramor Ewrop ddydd Sul, gan fynnu bod canlyniad yr etholiad yn “beth da” i Brydain ac Ewrop.

“Dw i’n credu bod llawer i fod yn bositif yn ei gylch e ac mae’n bwysig peidio rhagfarnu’r darpar Arlywydd na’i weinyddiaeth.

“Ychydig ddiwrnodau’n unig aeth heibio ers yr etholiad. Dw i’n credu bod angen i ni gyd aros i weld beth ddaw. Ond fe ddylen ni ei gweld fel cyfnod sy’n cynnig cyfle.”

Cyn yr etholiad yr wythnos diwethaf, roedd Johnson wedi dweud bod Trump yn “anwybodus” ac nad oedd yn gymwys i fod yn Arlywydd.

Ond ddydd Llun, fe ddywedodd fod y canlyniad yn awgrymu bod newid ar droed ym marn y cyhoedd a bod rhaid i wleidyddion ymateb i hynny.

Wrth egluro absenoldeb Prydain ym Mrwsel, dywedodd pennaeth polisi Brwsel, Federica Mogherini nad oedd yn syndod ar sail canlyniad refferendwm Ewrop.