Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn wedi cyfaddef iddo ladd pensiynwr a cheisio llofruddio dynes 21 oed yng Nghwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw fe blediodd Andrew Seal, 49 oed, yn euog o ddynladdiad Gwilym Jones, 73, ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, a cheisio llofruddio Bridie Jones, 21 oed.

Roedd Seal wedi gwadu llofruddio Gwilym  Jones.

Bu farw’r pensiynwr ar ôl cael ei drywanu mewn fflat yn Oxford Court, Cwm Ogwr ar 15 Mai eleni.

Fe fydd adroddiadau yn cael eu cynnal ar gyflwr seicolegol Seal o Gwm Ogwr.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu’r mis nesaf.