Bydd Gordon Anglesea yn apelio yn erbyn dedfryd o 12 mlynedd o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog ddydd Gwener o ymosod yn rhywiol ar ddau fachgen 30 o flynyddoedd yn ôl.

Er i’r cyn-blismon gael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl y dyfarniad, fe gafodd cyn-Uwcharolygydd Heddlu Gogledd Cymru yn Wrecsam rybudd fod cyfnod yn y carchar yn anochel.

Roedd y tad i bump, sy’n 79 oed ac sydd bellach yn byw ym Mae Colwyn, wedi gwadu cyhuddiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn llanciau mewn canolfan i droseddwyr ifanc ac yng nghartref Bryn Alyn.

Ond fe benderfynodd rheithgor ei fod yn euog o droseddau yn erbyn dau o’r bechgyn rhwng 1982 ac 1987.

Cymryd mantais

Fe glywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Gordon Anglesea wedi cymryd mantais o’i sefyllfa rymus – roedd yn arolygydd heddlu ar y pryd a’r bechgyn yn 14 oed a 15 oed.

Yn 1994, roedd Gordon Anglesea wedi ennill iawndal o £375,000 tros yr honiadau yn ei erbyn, ar ôl dod ag achos enllib yn erbyn y cyclchgrawn Private Eye, papurau’r Independent a’r Observer a chwmni teledu ITV.

Yr ymateb yn y llys

Fe wnaeth Gordon Anglesea flincio ac ochneidio wrth iddo gael ei ddedfrydu, cyn troi at ei deulu oedd yn eistedd mewn un rhan o’r oriel gyhoeddus yn codi bawd arno.

Mewn rhan arall o’r oriel gyhoeddus, bu cymeradwyaeth wrth i Gordon Anglesea gael ei hebrwng o’r llys.

Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Geraint Walters: “Fel person oedd i fod i gynnal y gyfraith ac amddiffyn y rhai sy’n agored i niwed, roedd eich troseddau yn erbyn y ddau fachgen oedd yn agored i niwed yn fater o gam-drin, yn ofnadwy, yr ymddiriedaeth yr oedd ganddyn nhw ynddo chi.

“Mae’r canlyniadau i’r ddau wedi bod yn ddifrifol. Yn wir, fe newidiwyd eu bywydau.”

“Hwyluso ei droseddau rhywiol”

Y tu allan i’r llys, dywedodd Roy McComb, dirprwy gyfarwyddwr NCA ar gyfer ymchwiliadau arbenigol: “Fe wnaeth Gordon Anglesea gam-drin plant a ddylai fod wedi bod yn ddiogel yn ei bresenoldeb.

“Maen nhw wedi datgelu rhan o’r effaith a gafwyd arnyn nhw gyda’r llys yn ystod y achos. Rwy’n credu bod y ddedfryd o 12 mlynedd a osodwyd gan y llys hwn heddiw yn adlewyrchu camdriniaeth ddifrifol o ymddiriedaeth a gyflawnwyd gan Gordon Anglesea er mwyn hwyluso ei droseddu rhywiol.”

Mae naw o bobl wedi eu cael yn euog o gam-drin plant o ganlyniad i Ymgyrch Pallial hyd yn hyn. Mae 69 o gwynion yn parhau i fod yn destun ymchwiliad.