Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi ysgrifennu llythyr agored at Fifa yn ei annog i godi ei waharddiad ar wisgo’r pabi coch
Mae cymdeithasau pêl-droed Lloegr a’r Alban wedi dweud y byddan nhw’n anwybyddu’r gwaharddiad ac yn caniatáu i’w chwaraewyr wisgo pabi ar fandiau braich du yn ystod eu gemau rhagbrofol Cwpan y Byd nesaf.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n gwneud datganiad ar wisgo’r pabi coch yng ngêm nesa’r tîm cenedlaethol yn erbyn Serbia.
Dywedodd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu’r Gymdeithas wrth golwg360 ddoe y bydd y tîm yn gwneud datganiad “yn ein hamser ein hunain, nid dan bwysau gan bobol eraill”.
Mae FIFA wedi gwahardd chwaraewyr pêl-droed rhag gwisgo’r pabi coch yn ystod gemau’r corff, a hynny am fod y bathodyn yn cael ei weld fel “symbol gwleidyddol.”
Ond mewn llythyr agored at Fifa, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y Lleng Brydeinig Frenhinol Charles Byrne bod y pabi coch yn symbol o goffa a gobaith am ddyfodol heddychlon ac nad oes ganddo unrhyw ystyr gwleidyddol, grefyddol neu fasnachol.
Meddai’r llythyr: “Rydym yn gofyn y termau cryfaf i chi, Fifa, eich bod yn ailystyried eich agwedd at gofio a’r defnydd o’r pabi coch, a chaniatáu chwaraewyr i anrhydeddu ymrwymiad ac aberth y Lluoedd Arfog.”
Daeth y llythyr wrth i Fifa ddweud ei fod yn agor achos disgyblu yn erbyn Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon ar ôl i grysau’r tîm mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Y Swistir ym mis Mawrth gynnwys symbol oedd yn nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.
Mae’r ffrae wedi poethi yn y dyddiau diwethaf gyda Theresa May yn galw’r gwaharddiad yn “gwbl warthus”.
Mae ofnau y gall y timau sy’n gwisgo’r pabi coch golli pwyntiau wrth iddyn nhw geisio ennill lle yng Nghwpan y Byd yn Rwsia yn 2018.