Paul Wright o'r Wyddgrug a'i deulu ifanc (Llun: PA)
Mae gŵr o’r Wyddgrug yn wynebu gwrandawiad llys heddiw i benderfynu a ddylai gael ei estraddodi i Wlad Groeg yn dilyn damwain y bu ynghlwm â hi dros ddeng mlynedd yn ôl.

Roedd Paul Wright, 34 oed, wedi bod ar wyliau yn Malia gyda’i ffrindiau yn 2003 ac wedi bod mewn gwrthdrawiad rhwng car a sgwter.

Esboniodd ei fod yn 21 oed ar y pryd ac wedi bod yn teithio mewn car gyda’i ffrind oedd wedi cynnig symud y car i rywun roedden nhw’n ei adnabod ac yn gweithio mewn bar.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y gwrthdrawiad, ac fe roddodd Paul Wright ddatganiad tyst ar y pryd.

‘Euog’ yn sgil absenoldeb

Rai misoedd yn ôl, dywedodd ei fod wedi’i synnu wrth weld yr heddlu yn cyrraedd ei dŷ yn dweud eu bod yn ei arestio am y digwyddiad.

Dywedodd nad oedd yn ymwybodol fod awdurdodau Gwlad Groeg wedi gorchymyn gŵys arno i fynychu achos llys dair blynedd wedi’r digwyddiad.

Ac yn sgil ei absenoldeb, fe gafodd ei farnu’n euog.

Bellach mae’n wynebu gorfod talu mwy na 4,000 ewro i ddiddymu’r warant arestio Ewropeaidd neu wynebu misoedd yn y carchar.

‘Ifanc ac anwybodus’

Bydd gwrandawiad i’w achos yn cael ei gynnal heddiw yn Llys yr Ynadon yn Westminster, a dywedodd Paul Wright ei fod yn teimlo “ofn ofnadwy.”

“Sut mae hyd yn oed meddwl am gael eich tynnu oddi wrth eich gwraig, eich dau o blant a ddim hyd yn oed gweld genedigaeth eich trydydd plentyn am rywbeth wnaethoch chi ddim gwneud 13 mlynedd yn ôl?”

Mae am rybuddio pobol eraill mewn sefyllfa debyg iddo gan ddweud, “fy nghamgymeriad mwyaf oedd bod yn ifanc ac anwybodus ac i beidio â gofyn am gyfreithiwr.”