Orgreave yn 1989 (Llun: geograph.org.uk)
Mae ymgyrchwyr sydd wedi bod yn galw am ymchwiliad swyddogol i’r gwrthdaro rhwng yr heddlu a glowyr yn 1984 yn Orgreave wedi dweud y byddan nhw’n ymateb yn fanwl i benderfyniad yr Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd i wrthod eu galwadau.

Fe fydd Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave ac Undeb  Cenedlaethol y Glowyr (NUM) yn cynnal cynhadledd newyddion yn Barnsley, de Swydd Efrog yn dilyn cyhoeddiad Amber Rudd ddoe na fydd ymchwiliad nac adolygiad annibynnol i’r digwyddiad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ei bod wedi gwneud y “penderfyniad anodd”, gyda chymorth y Prif Weinidog Theresa May, oherwydd nad oedd unrhyw un wedi cael eu lladd neu eu cyhuddo ar gam yn sgil ymddygiad Heddlu De Swydd Efrog.

Mae’r ymgyrchwyr yn honni eu bod wedi cael eu camarwain gan Amber Rudd.