Bydd Cyngor Wrecsam yn cyfarfod heddiw i drafod strategaeth pum mlynedd i “hyrwyddo, hwyluso a chynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg” yn y sir.
Byddai’r strategaeth hefyd yn dod â’r cyngor yn unol â’r safonau sy’n cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.
Yn ôl y cyngor, roedd 14.6% (18,102) o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001 ond fe ostyngodd y ffigwr 1.7% i 12.9% (16,659) o’r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011.
Mae’r Cyngor yn awyddus i weld y ffigwr yn cynyddu i’r lefel yr oedd yn 2001 erbyn yr amser y bydd Cyfrifiad 2021 yn cael ei gynnal ymhen 5 mlynedd.
Oherwydd hynny, mae’r strategaeth yn cynnwys targedau presennol o ran addysg cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.
Mae yna hefyd gyfres o gamau gweithredu sy’n anelu at roi cyfleoedd i bobl fyw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
‘Uchelgeisiol’
Yn ei ddogfen i Gynghorwyr cyn y cyfarfod, meddai’r Cynghorydd Huw Jones, yr aelod arweiniol dros yr iaith Gymraeg: “Mae’r Cyngor yn barod i ymateb i’r her ac yn uchelgeisiol o ran ei hawydd i gyflawni’r canlyniadau a amlinellir yn y strategaeth.
“Mae’r Cyngor yn awyddus iawn i gynnwys pobl ifanc yn ogystal â thrigolion di-Gymraeg er mwyn creu gwell dealltwriaeth o iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y Sir a datblygu ymdeimlad o ‘Gymreictod’ yn y dref.”
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gwario tua £103,000 y flwyddyn ar gyfieithu, hyfforddiant iaith Gymraeg, staffio a llogi cyfieithydd ar gyfer cyfarfodydd llawn y cyngor. Ond mae £250,000 ychwanegol wedi ei roi wrth gefn i gwrdd â’r costau a ragwelir sy’n gysylltiedig â Safonau’r iaith Gymraeg.