Andrew Mitchell Llun: PA
Mae ymddygiad Rwsia yn Syria wedi cael ei gymharu â’r Natsïaid gan Aelod Seneddol cyn dadl frys ar y “drychineb dyngarol” yn y wlad yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae beirniadaeth gynyddol wedi bod yn dilyn rôl honedig Rwsia mewn ymosodiad ar gonfoi o gymorth dyngarol y Cenhedloedd Unedig.

Bydd Aelodau Seneddol yn cynnal dadl frys yn y Senedd i drafod yr argyfwng fore dydd Mawrth ac mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Syr Michael Fallon ymhlith y rhai sydd wedi cyhuddo Rwsia o helpu llywodraeth Syria i fomio ei phobl ei hun. Mae Rwsia’n gwadu’r honiadau.

Ond mae cyn-Brif Chwip y Blaid Geidwadol Andrew Mitchell wedi mynd gam ymhellach gan gymharu rôl Moscow i un y Natsïaid yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.

Mae hefyd wedi beirniadu rôl Rwsia yn yr hyn mae’n ei alw yn “trychineb dyngarol yn Aleppo, ac yn ehangach ar draws Syria”.

Meddai Andrew Mitchell: “Rydym yn gweld digwyddiadau sy’n debyg i ymddygiad y gyfundrefn Natsïaidd yn Guernica yng Ngwlad y Basg.

“Mae Rwsia yn dinistrio’r Cenhedloedd Unedig a’i allu i weithredu, yn yr un modd y gwnaeth yr Almaenwyr a’r Eidalwyr ddinistrio Cynghrair y Cenhedloedd yn yr 1930au.”