Fe fydd cynrychiolwyr o gwmnïau Cymraeg yn teithio i Japan er mwyn creu cysylltiadau busnes cryfach hefo’r wlad yr wythnos nesaf.
Mae Melin Tregwynt, Snowdonia Cheese Company, cwmni dylunio V-Trak, a NutraSteward Ltd yn rhai o’r 19 cwmni fydd yn ceisio gwerthu eu cynnyrch mewn ffair yn Osaka.
Fe fydd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn cadw cwmni i’r cynrychiolwyr ac fe fydd yn cwrdd â Llysgennad Prydain yn Japan, Tim Hitchens, a Gweinidog Amgylchedd Japan, Yoshiihiro Seiki AS.
Mae Sony a Hitachi yn cael eu hystyried fel partneriaid mwyaf gwerthfawr Cymru yn Japan, ac fe fydd yr Ysgrifennydd hefyd yn ymweld â’u safleoedd.
Allforio £290 miliwn
“Mae gan Gymru wrth gwrs hanes balch o fasnachu â Japan, gan allforio gwerth tros £290 miliwn o gynnyrch i Japan y llynedd yn unig. Mae’r ffigwr hwnnw wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn,” meddai Ken Skates.
“Mae gan Japan hithau ymrwymiad hir i Gymru sy’n dyddio’n ôl i’r 1970au ac erbyn hyn, mae gan ryw 50 o gwmnïau o Japan, gan gynnwys Fukitsu, Hitachi, Panasonic, Sharp, Sony a Toyota, ffatrïoedd yng Nghymru gan gyflogi rhyngddynt dros 6,000 o bobol.
“Rwyf am guro’r drwm dros Gymru ac estyn llaw i’n partneriaid rhyngwladol wrth inni weithio i adeiladu economi gryfach a thecach i bawb yng Nghymru.”