Mae rali neo-Natsi wedi cael ei chynnal am dri diwrnod mewn cae yn Swydd Caergrawnt, er i ddigwyddiadau tebyg mewn gwledydd eraill gael eu gwahardd yn Ewrop a Rwsia.

Fe wnaeth y grŵp rhyngwladol Blood and Honour gynnal y digwyddiad i nodi marwolaeth ei sylfaenydd Ian Stuart Donaldson, a fu farw mewn gwrthdrawiad car ar 24 Medi 1993.

Mae sawl gwaharddiad yn erbyn y grŵp yng ngwledydd fel Yr Almaen a Rwsia am fod gan y grŵp gysylltiadau ag eithafiaeth dreisgar. Does dim gwaharddiad o’r fath yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Cyngor Dwyrain Swydd Caergrawnt cafwyd “hysbysiad i ddigwyddiad dros dro” am ‘barti preifat â cherddoriaeth’.

Dim ond yr heddlu a gwasanaethau amgylcheddol sy’n gallu gwrthwynebu hysbysiad i ddigwyddiad dros dro.

Cadarnhaodd Heddlu Swydd Caergrawnt eu bod nhw’n ymwybodol o “elfen asgell dde bosib” i’r digwyddiad, a’u bod wedi cynnal asesiadau risg yn hytrach na gwrthod iddo ddigwydd.

Roedd yr heddlu hefyd wedi cael gwybod y bydd y rali yn codi arian at elusen Help for Heroes, ond mae’r elusen wedi dweud nad oedd yn ymwybodol o’r digwyddiad ac na fyddai’n derbyn arian gan grwpiau eithafol.

Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r 350 o bobol a aeth i’r “parti” wedi dod o wledydd lle mae Blood and Honour wedi’i wahardd.

‘Gwaed a Chlod’

Roedd Ian Donaldson yn y band skinhead Skewdriver a Blood and Honour oedd enw un o albymau’r band.

Roedd Gwaed a Chlod – neu Blut a Ehre – hefyd yn arwyddair grŵp Ieuenctid Hitler, sef mudiad ieuenctid y Natsïaid yn Yr Almaen.