Fe fydd canolfan siopa a hamdden newydd ym Merthyr Tudful yn creu 400 o swyddi.

Mae’r gwaith i adeiladu siop Trago Mills wrth ymyl parc manwerthu Cyfarthfa wedi dechrau ac mae disgwyl iddo gostio tua £40 miliwn.

Mae gan y cwmni eisoes ddwy siop yng Nghernyw a Dyfnaint ond dyma fydd y gyntaf yng Nghymru.

Bydd yn gwerthu dodrefn, dillad, teganau a llyfrau a hefyd yn cynnwys caffi, canolfan arddio a lle chwarae.

Disgwylir i’r prosiect fod wedi’i orffen erbyn 2018, yn ôl y datblygwyr, ac fe fydd tua 250 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn ystod y broses adeiladu.