Mick Antoniw
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi galw am gael system gyfreithiol i Gymru mewn araith heddiw ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl Mick Antoniw, mae’r ffaith bod nifer cynyddol o gyfreithiau sy’n berthnasol i Gymru’n unig yn golygu bod sefydlu system gyfreithiol wahanol yn “anorfod”.

Nawr yw’r amser, meddai, i weithio ar system ar wahân i Gymru.

“Nawr bod gennym ni ddwy ddeddfwrfa, mae’n amlwg y dylem gael dwy awdurdodaeth,” meddai.

“Mae’n destun pryder mawr i mi fod yna rhyw fath o ddirgelwch neu barchedig ofn wedi ymddangos rhywsut ynghylch y cysyniad o awdurdodaeth Cymru a Lloegr.

“Rydw i o’r farn bod creu awdurdodaeth neilltuol yn ffordd syml a synhwyrol o symud ymlaen nes y byddwn yn cyrraedd y pwynt pan fydd y corff o gyfraith Cymru neu gyfraith Lloegr mor fawr nes bod dwy awdurdodaeth ar wahân yn anorfod.”

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn anghytuno ar y pwnc hwn, gyda San Steffan ar hyn o bryd yn gwrthod rhoi system gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Problemau toriadau llysoedd

Wrth siarad mewn cynhadledd ‘Cymru’r Gyfraith’, dywedodd Mich Antoniw y byddai creu system wahanol yn gyfle i wrthwynebu newidiadau Llywodraeth Prydain i’r system gyfreithiol.

Mae toriadau diweddar wedi golygu bod 10 llys yng Nghymru yn cael eu cau ac mae ffioedd llysoedd yn cynyddu.

Mae hyn, yn ôl Llywodraeth Cymru, wedi arwain at fwy a mwy o bobol yn mynd gerbron llys heb gyfreithiwr i’w cynrychioli.

Yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Prydain, mewn achosion cyfraith teulu, doedd cyfreithwyr ddim yn cynrychioli’r naill ochr mewn un o bob tri achos.

Cyfle i fod yn ‘greadigol’

Dywedodd Mick Antoniw y byddai’n rhaid i’r system sicrhau nad yw pobol Cymru dan anfantais a ddim yn cael effaith “andwyol” ar ddyfodol Cymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Nid yw cymorth cyfreithiol wedi’i ddatganoli, ac nid oes gennym ni’r arian i lenwi bwlch ariannol y toriadau i Gymorth Cyfreithiol, ond gallwn ddechrau ystyried gweithredu’n wahanol,” ychwanegodd.

Mae’n bosibl y bydd cyfle yma i fod yn greadigol, dod ag elfennau gwahanol ynghyd a chreu model arall.”

Wrth gloi ei araith, anogodd mwy o bobol o fyd y gyfraith yng Nghymru i gysylltu â Llywodraeth Cymru ar y newidiadau mae am weld.