Hybu cig oen mewn ffair fwyd yn Dubain (Llun Hybu Cig Cymru)
Mae Llywodraeth Cymru yn hawlio bod rhaglen dair blynedd i hyrwyddo cig wedi arwain at bron ddyblu gwerthiant tros y dŵr.

Yr honiad yw fod buddsoddiad o £1.2 miliwn mewn rhaglen hyrwyddo wedi arwain at ddiogelu gwerth £20 miliwn o werthiant i gig oen a chig eidion Cymreig ac wedi arwain at £18 miliwn o fusnes ychwanegol.

Ac yn ôl yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, mae llwyddiant o’r fath am fod yn bwysicach fyth wrth i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe fydd  llwyddiant y rhaglen hon yn hollbwysig wrth roi’r diwydiant ar sylfaen gadarn yn ystod ansicrwydd y cyfnod ôl-refferendwm, wrth i Gymru geisio cynnal marchnadoedd a sefydlwyd yn Ewrop ac adnewyddu ein hymdrechion i ddatblygu masnach ymhellach i ffwrdd,” meddai Lesley Griffiths.

Sgandinafia ar y blaen

Y brif farchnad newydd yw Sgandinafia, yn ôl Hybu Cig Cymru, y corff sy’n gyfrifol am hyrwyddo cig Cymreig.

Maen nhw’n dweud bod gwerth £11 miliwn o fusnes wedi’i sicrhau yng ngwledydd Llychlyn, gyda £4 miliwn arall yn yr Eidal.

Maen  nhw hefyd yn dweud bod marchnadoedd newydd yn cael eu datblygu mewn gwledydd fel Hon gong, Y Swistir a Chanada.