Nicola Sturgeon (PA)
Fe fydd Prif Weinidog newydd Prydain yn ymweld â’r Alban heddiw er mwyn dangos ei hymrywymiad i gynnal y Deyrnas Unedig.

Mae Theresa May wedi penderfynu mai ei hymweliad swyddogol cynta’ fydd cyfarfod gyda Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Does dim gwybodaeth eto a fydd y trefniadau’n newid oherwydd y digwyddiadau yn Nice yn Ffrainc.

‘Dim achos pryder’

Ddoe, roedd Theresa May wedi dweud ei bod yn mynd i’r Alban er mwyn dangos nad oedd angen pryder yno yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y cyfarfod yng Nghaeredin, fe fydd yn pwysleisio ei bod yn “credu’n llwyr” yn y Deyrnas Unedig wrth i’r Albanwyr ystyried cael refferendwm arall ar annibyniaeth.

Mae Nicola Sturgeon ac arweinwyr eraill yr SNP wedi dweud bod hynny’n “debygol” wedi i’r Alban fynd yn groes i Gymru a Lloegr a phleidleisio tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.