Map Heddlu Dyfed-Powys yn dangos ble'r oedd y ddamwain
Mae pedwar person yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Aberystwyth neithiwr, lle aeth car i mewn i dŷ.

Mae’n debyg bod y ddamwain wedi digwydd am tua 2 y bore yma ar yr A487 yn Rhydgaled, y tu allan i Aberystwyth.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio bod oedi mawr ar y ffordd o hyd, ac yn dweud wrth yrwyr am ganiatáu mwy o amser ar gyfer eu taith cyn gadael y tŷ y bore yma.

Troellog

Mae’r ffordd yn droellog a chul yn Rhydgaled ac mae’r tai yn agos iawn ati.

Dyma’r ail dro mewn ychydig flynyddoedd i gar daro tŷ yn yr ardal – fe fu digwyddiad tebyg ym Mlaenplwyf rhyw ddwy filltir i’r de.