Gwynfor Evans yn cael ei gario ar ysgwyddau Dai Bonner a Meic Stephens (Llun: Y Lolfa)
Fe fydd digwyddiad arbennig yng Nghaerfyrddin fory i gofio am fuddugoliaeth hanesyddol Gwynfor Evans yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru union 50 mlynedd yn ôl.
Yn ystod ‘Gŵyl Gwynfor’, fe fydd cofeb iddo yn cael ei dadorchuddio ar y sgwâr o flaen Neuadd y Dref, lle cafodd y canlyniad ei gyhoeddi noson yr isetholiad, 14 Gorffennaf 1966.
Mae buddugoliaeth Gwynfor Evans yn cael ei gweld gan sawl un yn drobwynt gwleidyddol a arweiniodd at ddatganoli i Gymru, ac i’r Alban hefyd – yn fuan wedi’r canlyniad, cafodd yr SNP ei Haelod Seneddol cynta’ yn isetholiad Hamilgon yn yr Alban.
“Fyddai yna ddim Cynulliad yng Nghaerdydd heddiw oni bai am Gwynfor Evans. Mae’r gofeb yn dathlu’r hyn gyflawnodd y dyn rhyfeddol hwn,” meddai Peter Hughes Griffiths o Ymddiriedolaeth Gwynfor Evans, a drefnodd y gofeb.
Bydd y plac, gan y cerflunydd Cymreig, Roger Andrews, yn cael ei dadorchuddio mewn seremoni am 2 o’r gloch.
Hen wynebau
Wedi hynny, am 2:45yp, bydd rhai o ffigurau blaenllaw Plaid Cymru, fel Dafydd Iwan a Dafydd Wigley, yn cyfrannu mewn achlysur i gofio am Gwynfor Evans yng nghapel Heol Awst yn y dref.
Fe fydd cynrychiolwyr etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yno hefyd – yr Aelod Cynulliad, Adam Price a’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards – a fydd yn darllen rhannau o araith gynta’ Gwynfor Evans i Dŷ’r Cyffredin yn 1966.