Cadw'i swydd - Alun Cairns (llun o'i wefan)
Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg yn greadur prin – un o’r ychydig weinidogion sydd wedi cadw ei swydd yng Nghabinet Llywodraeth Prydain.

Fe fydd Alun Cairns yn aros yn Ysgrifennydd Cymru er gwaetha’ newidiadau sylweddol gan y Prif Weinidog newydd, Theresa May.

Fe gafodd ei  alw i rif 10 Downing Street ddoe i gael clywed ei fod yn cadw’r swydd a gafodd ynghynt eleni ar ôl i Stephen Crabb symud i’r Adran Waith a Phensiwn.

Mae ei ffawd yn groes i ffawd ei ragflaenydd, sydd wedi ymddiswyddo o’r Cabinet ar ôl honiadau papur newydd ei fod wedi bod yn anfon negeseuon rhywiol at ddynes ifanc, er ei fod yn briod.

Wrth aildderbyn y swydd, fe ddywedodd Alun Cairns mai ei flaenoriaeth fyddai sichrau swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot.