Y diweddara’ – Smith yn gohirio lansio’i ymgyrch oherwydd y newydd o Ffrainc
Roedd y Cymro, Owen Smith, wedi bwriadu rhybuddio heddiw bod y Blaid Lafur mewn peryg mawr o chwalu ac mai ef yw’r unig un all ei huno.
Roedd Aelod Seneddol Pontypridd wedi cynllunio lansio’i ymgyrch am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr etholaeth heddiw.
Ei neges fydd fod angen tynnu’r blaid at ei gilydd ac, o’r tri sy’n cynnig i fod yn arweinydd, dim on def all wneud hynny.
“Mae hon yn ennyd o beryg mawr i Lafur,” meddai mewn dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.
“Os byddwn yn parhau fel yr yden ni, fe fydd y blaid yr ydw i’n ei charu yn gorffen mewn rhwyg trychinebus.”
‘Yn y canol’
Mae Owen Smith wedi ceisio ei osod ei hun yn y canol rhwng AS Wallasey, Angela Eagle, a’r arweinydd presennol, Jeremy Corbyn.
Mae wedi pwysleisio nad oedd yn un o arweinwyr y cynllwyn i ddisodli’r arweinydd ac mae’n pwysleisio ei fod fwy i’r chwith nag Angela Eagle.
Ei obaith yw y bydd hynny’n apelio at y miloedd o aelodau asgell chwith newydd sydd wedi ymuno â’r blaid – mae cannoedd o aelodau newydd mewn etholaethau yng Nghymru, er enghraifft.
Fe fydd Owen Smith yn rhoi cic i’r ddau ymgeisydd arall, trwy ddweud na all Angela Eagle uno’r blaid a thrwy awgrymu bod angen mwy na safbwyntiau gwrth-gyni Jeremy Corbyn.
Pleidlais bosib
Fe ddywedodd Owen Smith mewn neges trydar ei fod yn gohirio’r lansio oherwydd “y newyddion torcalonnus o Ffrainc”.
Fe fyddai’r sylw i’r ymosodiad yno hefyd wedi golygu mai ychydig o sylw fyddai i’w sylwadau.
Mae’r BBC yn dweud y bydd pleidlais ymhlith aelodau seneddol Llafur yr wythnos nesa er mwyn ceisio sicrhau mai dim ond un ymgeisydd fydd yn gwrthwynebu Jeremy Corbyn, ond does dim cadarnhad swyddogol.