Pobol yn dianc yn Nice (@harp_detectives/PA Wire)
Mae o leia’ 84 o bobol – ac efallai mwy – wedi cael eu lladd mewn ymosodiad brawychol yn Nice yn ne Ffrainc.
Fe gafodd lorri fawr ei gyrru i ganol tyrfaoedd oedd yn dathlu Diwrnod y Bastille – diwrnod cenedlaethol Ffrainc – ar lan y môr yn y dre’ wyliau.
Does dim gwybodaeth eto a oes pobol o Gymru neu wledydd Prydain ymhlith y meirw.
Yr ymosodiad
Fe ddechreuodd adroddiadau tua 10.30 neithiwr (amser Cymru) gyda lluniau ar wefannau cymdeithasol o bobol yn rhedeg am eu bywydau hyd strydoedd y dre’.
Yn ôl rhai tystion, roedd gyrrwr y lorri’n tanio gwn wrth yrru ac mae sôn fod ffrwydron yn y cerbyd hefyd.
Erbyn hyn, mae’r awdurdodau’n dweud mai dyn o dras Tiwnisiaidd oedd y gyrrwr; er nad oes yr un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Ffrainc yn dweud yn bendant ei fod yn ymosodiad brawychol.
Mae tua 18 o bobol yn ddifrifol wael hefyd yn sgil yr ymosodiad ar filoedd o bobol oedd allan ar y stryd yn dathlu.
Stad argyfwng
Mae’r ymosodiad wedi cael ei gondemnio gan arweinwyr gwledydd o bob cwr o’r byd.
Mae yna feirniadaeth hefyd ar y trefniadau diogelwch yn Nice – un awgrym yw fod yr awdurdodau wedi llacio eu gafael rywfaint ar ôl llwyddiant heddychlon pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2016.
Ddoe, roedd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi cyhoeddi y byddai’r Stad Argyfwng yn Ffrainc yn dod i ben; mae bellach wedi ei ymestyn.
Cymry’n ymateb
Mae Cymry wedi bod yn ymateb i’r ymosodiadau, ychydig wythnosau’n unig ar ôl i filoedd o gefnogwyr Cymru fod yn Ffrainc ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2016.
#prayfornice dimond di bod nol o ffrainc pryn wythnos. Byd creulon!
— Aled Williams (@Aled1Williams) July 14, 2016
Newydd ddod nol o'r mis gorau erioed yn Ffrainc, wedyn ar eu diwrnod cenedlaethol mae rhywbeth fel hyn yn digwydd. Trasiedi arall.
— Guto Llewelyn (@GutoLlewelyn) July 14, 2016
Ofnadwy clywed am y digwyddiadau yn Nice heno. Dinasoedd Ffrainc mor agos at galonnau miloedd o Gymry yr haf yma – golygfeydd hunllefus
— Sioned Ann Williams (@Sioned_W) July 14, 2016