Y Prif Weinidog, Theresa May, Llun; Hannah McKay/PA Wire
Ar ôl diwrnod o ddiswyddiadau, penodiadau ac ymddiswyddiadau, mae Prif Weinidog newydd Prydain, bron â chwblhau ei Chabinet.

Mae cabinet Theresa May yn cynnwys mwy o ferched nag o’r blaen, a rhestr o ymgyrchwyr Brexit blaenllaw.

Oriau ar ôl iddi ddiswyddo George Osborne, cafodd Michael Gove, Oliver Letwin, Nicky Morgan a John Whittingdale wybod nad oes lle iddyn nhw yn y cabinet chwaith.

Ond yn annisgwyl i rai, fe gadwodd Jeremy Hunt ei swydd fel Ysgrifennydd Iechyd, yn dilyn adroddiadau y gallai e fynd hefyd.

Liz Truss sydd wedi cael swydd Michael Gove fel yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, a daeth yn Arglwydd Ganghellor benywaidd gynta’, mil o flynyddoedd ers i’r rôl gael ei sefydlu.

A Karen Bradley yw’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd, gan gymryd lle John Whittingdale.

Rheolwr ymgyrch arweinyddiaeth Theresa May, Chris Grayling, sydd wedi cael Ysgrifennydd Trafnidiaeth, y diweddara’ o’r Brexitwyr i ymuno â’r cabinet, sy’n cynnwys Boris Johnson fel Ysgrifennydd Tramor,  Liam Fox yn Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol a David Davis i reoli’r broses o Brexit.

Cairns yn aros, Crabb yn mynd

Pedwar mis ar ôl cael ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru, mae Alun Cairns wedi clywed ei fod yn cadw ei swydd.

Yn y cyfamser mae’r AS dros Breseli Penfro, Stephen Crabb, a oedd yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, wedi ymddiswyddo “er lles” ei deulu, ddyddiau’n unig ar ôl i bapur newydd The Times honni ei fod wedi anfon negeseuon o natur rywiol at fenyw ifanc yn ystod ymgyrch y refferendwm.

Mae’n cael ei olynu gan Damian Green, AS dros Ashford yn ne Lloegr ond sy’n wreiddiol o’r Barri.

Yn ôl y Blaid Lafur, mae’r penodiadau yn gwrthddweud geiriau Theresa May, wrth iddi gyrraedd rhif 10 Downing Street, am lywodraethu “dros bawb, nid  y rhai breintiedig yn unig.”

Diddymu’r Adran Ynni

Mae’r Prif Weinidog wedi cael gwared â’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Decc) hefyd, a gafodd ei sefydlu gan Gordon Brown yn 2008, i frwydro yn erbyn cynhesu byd-eang.

Greg Clark sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol – adran newydd, sydd i bob pwrpas yn dod yn lle’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

Cafodd ei hen rôl fel pennaeth yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ei llenwi gan Sajid Javid, y cyn-Ysgrifennydd Busnes.

Penodiadau eraill

Justine Greening sydd wedi dod yn lle Nicky Morgan fel yr Ysgrifennydd Addysg, a bydd hefyd yn weinidog dros fenywod a chydraddoldeb.

Fe wnaeth Nicky Morgan hi’n glir nad oedd yn hapus am golli ei swydd, gan ddweud ei bod yn “siomedig.”

James Brokenshire, fydd yr Ysgrifennydd dros Ogledd Iwerddon, gan ddod yn lle Theresa Villiers, a ymddiswyddodd.

Mae’r Brexitwraig flaenllaw, Andrea Leadsom, a ddaeth yn ail i Theresa May yn y ras i olynu David Cameron, wedi cael ei dyrchafu o rôl y gweinidog ynni i fod yn Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Fe ddaeth Brexitwraig arall, Priti Patel yn Ysgrifennydd dros Ddatblygu Rhyngwladol.

Dyma’r penodiadau hyd yn hyn:

Ysgrifennydd Addysg –  Justine Greening

Ysgrifennydd Iechyd  – Jeremy Hunt

Ysgrifennydd Cyfiawnder – Liz Truss

Canghellor – Philip Hammond

Ysgrifennydd Cartref – Amber Rudd

Ysgrifennydd Tramor – Boris Johnson

Ysgrifennydd Amddiffyn – Michael Fallon

Ysgrifennydd Gwladol Brexit – David Davis

Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol – Liam Fox

Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol – Priti Patel

Ysgrifennydd Trafnidiaeth – Chris Grayling

Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau – Damian Green

Ysgrifennydd Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – Andrea Leadsom

Ysgrifennydd Cymunedau – Sajid Javid

Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon – James Brokenshire

Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol – Greg Clark

Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol – Priti Patel

Ysgrifennydd Cymru – Alun Cairns

Yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon – Karen Bradley.