Neil Hamilton AC Ukip Llun: Senedd.tv
Mae Bwrdd Taliadau annibynnol y Cynulliad yn ystyried newid ei reolau er mwyn gadael i Aelodau Cynulliad sy’n byw y tu allan i Gymru hawlio treuliau o dros £8,000.

Byddai hynny’n golygu bod arian o’r pwrs cyhoeddus yn mynd at dalu costau byw Aelodau Cynulliad fel Neil Hamilton o Ukip. Mae AC Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cadw ei gartref yn Wiltshire lle mae’n parhau i fyw gyda’i wraig, Christine.

Yn ôl cadeirydd y bwrdd annibynnol, a gafodd ei sefydlu yn dilyn sgandal treuliau Aelodau Seneddol yn 2010, ni ddylai’r un Aelod Cynulliad gael ei “rwystro” rhag gwneud ei waith.

Ychwanegodd y Farwnes Dawn Primarolo nad yw’r  rheol fel mae hi ar hyn o bryd “yn rhoi’r un gefnogaeth” i Aelodau Cynulliad sydd ddim yn byw yng Nghymru.

Fe nododd hefyd nad oes yna’r un gyfraith yn nodi bod yn rhaid i Aelod Cynulliad fyw yng Nghymru i sefyll mewn etholiad.

“Does yna’r un gyfraith yng Nghymru, neu unrhyw gyfraith arall, yn cydnabod cymhwyster preswyl i sefyll fel Aelod Cynulliad,” meddai.

Beirniadu

Ond mae’r syniad wedi cael ei feirniadu, gyda’r Aelod Cynulliad dros Lanelli, Lee Waters yn dweud ar Twitter: “Mae’r Bwrdd Taliadau yn ystyried gadael i ACau sydd ddim yn byw yng Nghymru hawlio am ail dŷ yng Nghaerdydd.

“Ddylen nhw ddim cael yr hawl i sefyll (am etholiad), heb sôn am hawlio.”

Mae swyddfa Neil Hamilton wedi dweud nad yw am wneud sylw ar y mater.

“Cefnogaeth briodol a rhesymol”

Mewn datganiad, fe ddywedodd y Bwrdd Taliadau ei bod “yn ofynnol iddo dan y gyfraith” i roi cefnogaeth ariannol i alluogi Aelodau Cynulliad i “ymgymryd â’u dyletswyddau.”

“Dylai’r gefnogaeth honno fod yn briodol, yn rhesymol ac yn adlewyrchu’r trwch o swyddogaethau sydd gan Aelodau Cynulliad, fel creu cyfreithiau newydd a chytuno ar gyllideb Cymru a’u heffaith ar fywydau pobol Cymru,” meddai Dawn Primarolo.

“Ni ddylai’r un aelod gael ei rwystro rhag gwneud y rôl cafodd ei ethol i wneud.

“Fe wnaeth bobol Cymru benderfynu pwy oedden nhw am ethol ar 5 Mai ac maen nhw’n disgwyl i’r Bwrdd sicrhau bod gan y 60 Aelod hynny adnoddau priodol a rhesymol i’w cynrychioli hyd eithaf eu gallu.”