Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru
 Yn ei araith gyntaf yn y swydd, mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi dweud bod y penderfyniad i gau llysoedd yng Nghymru yn bygwth hawliau dynol pobol y wlad.

Yn ôl Mick Antoniw, mae cynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i gau hyd at 10 llys yng Nghymru yn “cyfyngu cymorth cyfreithiol” sydd ar gael i bobol.

Bydd Llys Ynadon Prestatyn, Llysoedd y Gyfraith Caerfyrddin, Llysoedd Dolgellau, Llysoedd y Gyfraith Aberhonddu, Llysoedd y Gyfraith Pen-y-Bont ar Ogwr, Llysoedd Sifil a Theulu Castell Nedd a Phort Talbot, Llys Ynadon Pontypridd a Chanolfan Tribiwnlys a Gwrandawiadau Wrecsam yn cau.

Mae’r torri yn ôl yn rhan o gynllun £700 miliwn Llywodraeth Prydain i ailwampio a moderneiddio’r system gyfiawnder.

“Torri costau”

Ond, wrth siarad yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, dywedodd Mick Antoniw fod “mynediad i gyfiawnder ym Mhrydain erioed wedi bod mor brin ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.”

Dywed bod y newidiadau “wedi rhoi diwedd” ar y consensws gafodd ei wneud wedi’r rhyfel “mai hawl gymdeithasol a dynol sylfaenol yw mynediad i gyfiawnder sy’n gwbl hanfodol wrth greu cymdeithas decach a mwy cyfartal.”

“Un o egwyddorion eraill mynediad i’r gyfraith yw y dylai llysoedd a thribiwnlysoedd gael eu lleoli mewn cymunedau lleol gyda barnwyr, ynadon a chadeiryddion tribiwnlysoedd sy’n adnabod ac yn deall y gymuned,” ychwanegodd.

“Mae’r cyhoeddiad diweddar fod deg o adeiladau llysoedd ychwanegol yn mynd i gau yn tanseilio’r egwyddor hon yn enbyd. Torri costau sydd wrth wraidd y bwriad i gau’r llysoedd hyn yn hytrach nag effeithlonrwydd wrth weinyddu cyfiawnder.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.