Paul Flynn, (Llun: O wefan yr AS)
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod angen i Lywodraeth Prydain ymddiheuro’n swyddogol i deuluoedd y milwyr Prydeinig a fu farw yn rhyfel Irac.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar Gymru ac arweinydd cysgodol Tŷ’r Cyffredin, Paul Flynn, y dylai’r llywodraeth gynnig ymddiheuro wyneb yn wyneb i deuluoedd, yn dilyn cyhoeddi adroddiad Chilcot yr wythnos ddiwetha’.

“Mae Chilcot wedi rhoi ei ddyfarniad ac mae’n ddyfarniad o euogrwydd byddarol,” meddai.

“Rydym yn euog ac rydym wedi cael ein dyfarnu’n euog o anfon ein milwyr dewr i ryfel ofer, y gallai fod wedi cael ei osgoi.”

Llafur ‘eisoes’ wedi ymddiheuro

Dywedodd fod arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, eisoes wedi ymddiheuro ar ran ei blaid a galwodd ar Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Chris Grayling, i drefnu ymddiheuriad swyddogol.

“Dyma’r lleiaf y gallai cenedl ddiolchgar ei wneud i’r sawl sydd wedi cael cam difrifol,” meddai.

Wfftio’r syniad

Fe wnaeth Chris Grayling wfftio’r syniad, gan fynnu mai cyfrifoldeb Llafur oedd y rhyfel, fel y llywodraeth oedd mewn grym ar y pryd.

“Alla’i eich atgoffa mai prif weinidog Llafur a safodd yn y Tŷ hwn ac egluro i’r Tŷ pam ddylwn ei gefnogi a’r penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac,” meddai.

“Cyfrifoldeb y Blaid Lafur yw egluro ei hun, nid ni fel yr wrthblaid ar y pryd.”

Galw ar Tony Blair i sefyll ei brawf

Ers cyhoeddi adroddiad Chilcot, mae nifer o alwadau wedi bod ar i Tony Blair, y Prif Weinidog a arweiniodd Prydain i ryfel yn Irac, fynd o flaen ei well.

Fe ddywedodd rhieni o Gymru a gollodd eu mab yn 2007 yn Irac eu bod nhw hefyd am weld Tony Blair yn cael ei ddwyn i gyfrif.

Mae’r cyn-Brif Weinidog wedi cymryd cyfrifoldeb am hyn arweiniodd at ryfel Irac ond wedi dweud ei fod yn credu mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud ar y pryd.