Cefnogwyr pel-droed Lloegr a Rwsia yn gwrthdaro yn Stade Velodrome, Marseille Llun: Owen Humphreys/PA Wire
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau heddiw y bydd rhagor o blismyn o’r Deyrnas Unedig yn cael eu hanfon i Ffrainc ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr ddydd Iau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, y bydd Prydain hefyd yn darparu “pa bynnag gymorth plismona y mae Ffrainc yn gofyn amdano” fel rhan o bencampwriaeth Ewro 2016.
Daw’r cam yn sgil pryderon y bydd hanes trafferthion cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn cael ei ailadrodd dros y dyddiau nesaf wrth i Gymru chwarae Lloegr yn Lens – a Rwsia’n chwarae Slofacia yn Lille, llai na 40km i ffwrdd.
Ychwanegodd Theresa May bod Pennaeth Cyngor Cenedlaethol yr Heddlu ar Bêl-droed yn cyfarfod â swyddogion Ffrainc heddiw i drafod pa gymorth sydd ei angen.
Dywedodd y bydd mwy o ddiogelwch yn y stadiymau hefyd yn dilyn beirniadaeth gan Gadeirydd y Gymdeithas Bêl-droed, Greg Dyke, a ddywedodd fod lefel y stiwardiaeth yn Marseille yn “annerbyniol.”
Er hyn, nid oedd yr Ysgrifennydd Cartref am ddatgelu faint yn union o swyddogion fyddai’n mynd i Ffrainc am “resymau gweithredol.”