Mae bwrdd rheoli a disgyblu UEFA wedi penderfynu rhoi gwaharddiad gohiriedig i Rwsia o bencampwriaeth Ewro 2016 yn dilyn yr helynt rhwng cefnogwyr Rwsia a Lloegr yn Marseille dros y penwythnos.

Wrth gyfarfod ym Mharis, fe benderfynodd y bwrdd rheoli gyflwyno dirwy o 115,000 ewros i Undeb Bêl-droed Rwsia hefyd am y troseddau’n ymwneud â tharfu ar y dorf, tanio tân gwyllt ac ymddygiad hiliol tu fewn i Stadiwm Velodrome ddydd Sadwrn.

Er hyn, os bydd achosion pellach o drafferthion gan gefnogwyr Rwsia yn codi yn ystod y gemau fe fydd y gwaharddiad gohiriedig yn cael ei godi a’r wlad yn cael eu taflu allan o Ewro 2016.

Yn y cyfamser, mae un o gefnogwyr Lloegr, Daniel Warlow 24 oed, wedi cael gwaharddiad pêl-droed am bum mlynedd am ei gysylltiad â’r camymddwyn yn Marseille ddydd Sadwrn.

Clywodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod clip fideo wedi dangos Daniel Warlow yn “taflu cadair” ar nos Wener, Mehefin 10, yn Marseille.