Warren Gatland (Llun: Gareth Fuller/PA)
Doedd dim buddugoliaeth i Warren Gatland yn ei dref enedigol, Hamilton, heddiw wrth i dîm rhanbarthol y Chiefs guro Cymru, 40 – 7.

Daeth cais cyntaf y Chiefs gan Brad Weber a redodd 25 metr gyda’r bêl.

Wedi hynny, fe wnaeth Cymru adennill ychydig o’r meddiant gan ddominyddu chwarter cyntaf y gêm, ond 21 – 0 i’r Chiefs oedd y sgôr hanner amser

Yn yr ail hanner llwyddodd Kristian Dacey i gael cais i Gymru ar ôl 56 munud gyda Rhys Priestland yn ei throsi.

Ond daeth tri chais arall i’r Chiefs cyn diwedd y gêm gan James Lowe, Toni Pulu a Sam McNicol, gan greu bwlch o 33 pwynt, sef y grasfa fwyaf i Gymru yn erbyn tîm rhanbarthol yn Seland Newydd.

Mae ail brawf Cymru yn erbyn Seland Newydd yn cael ei chynnal yn Wellington ddydd Sadwrn.