Mae Morgannwg wedi cyhoeddi’r un garfan o 16 o chwaraewyr unwaith eto wrth iddyn nhw groesawu Swydd Middlesex i Gaerdydd ar gyfer gornest 50 pelawd yng nghwpan Royal London ddydd Mawrth (2 o’r gloch).
Mae disgwyl hefyd i’r prif hyfforddwr Robert Croft ddewis yr unarddeg o chwaraewyr a drechodd Swydd Gaint ddydd Sul.
Mae pedair buddugoliaeth wedi bod yn ddigon i dimau gyrraedd rownd yr wyth olaf dros y tymhorau diwethaf, a chwe buddugoliaeth wedi bod yn ddigon i sichrau gêm gartref.
Dywedodd y capten Jacques Rudolph fod nifer fawr o’r chwaraewyr yn hyderus yn sgil eu perfformiadau diweddar.
“Os ydyn ni’n parhau i chwarae un gêm ar y tro, rwy’n credu y byddwn ni’n cyrraedd y rowndiau olaf ond rhaid i ni gadw ein traed ar y ddaear a pharchu’r gêm griced.”
Yr ymwelwyr
Mae nifer o wynebau cyfarwydd i gefnogwyr Morgannwg yng ngharfan Swydd Middlesex, gan gynnwys y bowliwr cyflym o Abertawe, James Harris sydd heb chwarae yn y gystadleuaeth hon eto eleni.
Hefyd yn y garfan, mae’r ddau chwaraewr o Seland Newydd, James Franklin a Brendon McCullum sydd hefyd wedi treulio cyfnodau gyda’r sir yn y gorffennol.
Dim ond dau bwynt sydd gan Swydd Middlesex o’u tair gêm gyntaf.
Ystadegau
Mae Morgannwg wedi ennill tair allan o’u pedair gêm diwethaf yn erbyn y gwrthwynebwyr, ac mae pump allan o’r chwe gêm diwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghymru wedi cael eu hennill gan y tîm oedd wedi batio’n gyntaf.
Dydy Morgannwg ddim wedi cael eu curo gan Swydd Middlesex yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon ers 2009, ond tarodd Dawid Malan 156 heb fod allan pan gyfarfu’r ddwy sir y tymor diwethaf.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, D Cosker, A Donald, T van der Gugten, M Hogan, C Ingram, J Kettleborough, D Lloyd, C Meschede, D Penrhyn Jones, A Salter, N Selman, G Wagg, M Wallace
Carfan Swydd Middlesex: J Franklin (capten), J Fuller, N Gubbins, J Harris, R Higgins, D Malan, B McCullum, E Morgan, T Murtagh, O Rayner, T Roland-Jones, J Simpson, N Sowter, P Stirling