Ail aur i Aled Siôn Davies
Mae Aled Siôn Davies wedi torri record y byd yn y ddisgen yng nghategori F42 wrth gipio medal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop yr IPC.
Roedd y tafliad yn Grosseto yn yr Eidal yn ddigon i sicrhau record byd, record Ewropeaidd a record y bencampwriaeth i’r Cymro o Ben-y-bont ar Ogwr.
Hon yw ei ail fedal aur yn y Pencampwriaethau, yn dilyn ei lwyddiant yn y siot ddydd Sul.
Dyma oedd ei gystadleuaeth fawr olaf cyn dechrau’r Gemau Paralympaidd yn Rio de Janeiro.
Taflodd e’r ddisgen 54.14 metr ar ei drydydd tafliad – y tro cyntaf erioed yn y gystadleuaeth hon i unrhyw un daflu dros 54 metr.
Tom Habscheid o Lwcsembwrg oedd yn ail gyda thafliad o 45.41 metr – bron i naw metr y tu ôl i safle’r fedal aur.
Dechko Ovcharov gipiodd y fedal efydd am dafliad o 38.47 metr.
Dywedodd: “Rwy wrth fy modd gyda’r tafliad heddiw, a chael taflu tafliad gorau ym Mhencampwriaethau Ewrop. Rwy mor hapus.
“Roedd y gwynt y tu ôl i fi’n ofnadwy.
“Mae’n gyffrous cael gweld beth alla i wneud dros y blynyddoedd i ddod a lle galla i adeiladu ar hyn wrth fynd i mewn i Rio.”