Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi sicrhau £50 miliwn gan fanc yr HSBC er mwyn datblygu ardal arloesi Glannau Abertawe.
Y bwriad yw creu cymdogaeth ddysgu newydd yn Abertawe, a hynny drwy gysylltu addysg gyda busnes, arloesedd a mentergarwch.
Bydd y cyllid gan Fanc yr HSBC yn cael ei wario ar waith adeiladu fydd yn cynnwys dros 12,000 metr sgwâr o gyfleusterau ar gyfer ymchwil.
Dywedodd Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes: “Mae sicrhau’r cyllid hwn gan HSBC yn gam mawr ymlaen ar gyfer y datblygiad arloesol hwn.”
Ychwanegodd: “Nid campws newydd yn unig fydd yr Ardal Arloesi – bydd yn gymdogaeth fywiog, integredig lle byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd er budd pob un ohonom, gan ddatblygu sgiliau busnesau cyfredol a denu buddsoddiadau newydd i’r rhanbarth.
“Mae cwblhau’r cytundeb hwn yn golygu y gall y gwaith adeiladu ddechrau nes ymlaen eleni er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau’n barod ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2018.”