Mae bachgen 17 mlwydd oed wedi cael ei garcharu am oes am hacio bachgen arall i farwolaeth gyda chyllell fawr machete.
Fe aeth Blaise Lewinson ati i drywanu Stefan Appleton oedd hefyd yn 17, gyda llafn 25 modfedd, yn ei goes a’r frest mewn parc yng ngogledd Llundain y llynedd.
Fe fu’r rheithgor yn trafod am 14 awr a hanner cyn dedfrydu bachgen 17 oed am ddynladdiad, ond fe’i cafwyd yn ddieuog o lofruddiaeth.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Richard Hone fod Blaise Lewinson yn “droseddwr peryglus” gyda “diddordeb mewn cyllyll anghyfreithlon”.
“Roedd defnyddio’r arf milain hwn, hyd yn oed gyda llai o fwriad, wedi achosi’r golled i fywyd ifanc Stefan Appleton.
“Roedd yn amlwg heb arf ac mi wnes di ei drywanu ar y llawr tra’r oedd yn amddiffyn ei hun.”
Fe fydd Blaise Lewinson yn cael ei ddedfrydu i isafswm o naw mlynedd o garchar, cyn bod yna ystyriaeth i’w ryddhau ar drwydded.