Bu ffermwyr yn dadlau neithiwr dros ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru petai Prydain yn dewis aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu adael.
Daeth tua 200 o ffermwyr o bob cwr o Gymru i Aberhonddu nos Fawrth i glywed dadleuon Phil Hogan, Comisiynydd Amaeth Ewrop, a Stuart Agnew, llefarydd amaethyddiaeth ar ran UKIP.
Roedd y naill yn dadlau mai aros yn Ewrop fyddai orau i ffermwyr Cymru, a’r llall yn chwyrn dros adael, gyda Stuart Agnew yn pwysleisio y byddai amaethyddiaeth yn cael chwarae teg gan Brydain, petai’n gadael Ewrop.
Cafodd y gynulleidfa gyfle i holi cwestiynau a gwyntyllu rhai o’u pryderon ynghylch yr Undeb Ewropeaidd, sydd â gormod o “fiwrocratiaeth” yn ôl y rhan fwyaf o ffermwyr.
Roedd rhai yn dadlau bod y taliadau sy’n dod i ffermwyr yng Nghymru gan Ewrop yn rhy bwysig i’w colli, ac eraill yn poeni y byddai’r taliadau hyn yn cael eu lleihau yn y dyfodol.
Ewrop ‘ddim yn berffaith’ ond ‘angen aros’
Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, roedd y ddadl dros aros yn rhan o’r Undeb wedi’i selio â ffeithiau, tra bod y ddadl dros adael yn “llawn emosiwn”.
Roedd yn cydnabod bod “gormod o fiwrocratiaeth” yn perthyn i’r Undeb Ewropeaidd ar faterion amaethyddol ac nad oedd yr undeb yn berffaith, ond ei gred e yw bod yn rhaid aros i newid hynny.
“Dwi yn gweld bod ‘na wendidau a lle i wella Ewrop, ond dwi’n gry’ iawn dros aros,” meddai wrth golwg360.
Rhoddodd y bai hefyd ar Lywodraeth Prydain am ‘gymhlethu’ rhai o’r deddfau a rheolau sy’n dod o Ewrop, gan achosi i rai ffermwyr wneud camgymeriadau, a chael eu cosbi’n ariannol am wneud hynny.
Dibynnu ar Ewrop i “werthu cynnyrch”
Dywedodd fod y diwydiant yn dibynnu ar Ewrop i “werthu cynnyrch” a’i fod yn pryderu y gallai “cyfyngiadau” ar gynnyrch Prydain gael eu cyflwyno yn Ewrop, petai bleidlais dros adael ym mis Mehefin, gan ei gwneud yn anodd i ffermwyr.
Mae gan ffermwyr Prydain yr hawl i fasnachu ar y farchnad rydd heb gyfyngiadau ar hyn o bryd, ond does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd os na fydd Prydain yn rhan o’r Undeb rhagor, meddai.
“Os ‘da ni’n dod allan, beth fydd dyfodol ni yn masnachu? Er enghraifft, mae rhan helaeth o’n cig oen ni yn mynd i Ewrop,” ychwanegodd Glyn Roberts.
Nid oedd yn hyderus y bydd Ewrop yn cynnig “cymaint o gefnogaeth” i Brydain fasnachu yn Ewrop, petai ‘na bleidlais i adael, meddai.
“Buaswn i’n mawr obeithio y bydd y bleidlais amaethyddol o blaid aros i mewn yn gry’.”