Y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown Llun: PA
Fe fydd y ddwy ochr yn yr ymgyrch cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn dwysau eu hymdrechion heddiw.

Fe fydd Boris Johnson yn ymuno a bws Vote Leave ac mae disgwyl i Gordon Brown wneud apêl i Brydain “arwain yn Ewrop, nid ei gadael.”

Mae disgwyl i gyn-Faer Llundain ymuno a chadeirydd Vote Leave, yr AS Llafur Gisela Stuart yng Nghernyw ar gyfer dechrau taith y bws ar draws y DU yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn lledaenu neges Brexit cyn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Yn y cyfamser fe fydd y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown yn defnyddio araith yn Llundain i ddadlau’r achos dros aros yn rhan o’r Undeb.