111.

Dolen i’r canlyniadau llawn.

* Leanne Wood wedi ennill y Rhondda, a Plaid yn herio ym Mlaenau Gwent a Chaerffili ond methu â chipio seddi targed

* Llafur yn dal eu tir yn y gogledd-ddwyrain, y de-ddwyrain, Gwyr a Chaerdydd

*UKIP yn ennill eu seddi rhanbarthol cyntaf

*Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael noson siomedig

9.35am

Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi’i gyhoeddi – dwy sedd i Lafur (Joyce Watson ac Eluned Morgan), un i UKIP (Neil Hamilton) ac un i Blaid Cymru (Simon Thomas).

Canol De Cymru ydi’r unig un ar ol, a does wybod pryd ddaw hwnnw, felly am y tro diolch am ymuno efo ni ar Flog Byw Golwg360 o noson yr etholiad!

9.15am

Dim ond dwy ranbarth yn weddill felly – y darogan ar hyn o bryd yw y bydd rheiny’n rhoi dwy sedd arall i Lafur.

Byddai hynny’n eu rhoi nhw ar 29 sedd, dwy yn brin o fwyafrif. Byddai cytundeb gyda Phlaid Cymru’n ddigon am fwyafrif cyfforddus, ond gyda dim ond un Democrat Rhyddfrydol yno fyddai’r opsiwn hwnnw ddim yn bosib.

Mae ambell un wedi awgrym posibiliad arall, fodd bynnag – Llafur + Kirsty Williams + Dafydd Elis-Thomas, fyddai’n rhoi mwyafrif o un. O gofio’r anawsterau diweddar rhwng Dafydd El a’i blaid unwaith eto’n ddiweddar, oes posib y gwelwn ni’r Arglwydd a’r Blaid yn ysgaru yn ystod y Cynulliad nesaf?

8.57am

Canlyniad yng Ngorllewin Caerdydd o’r diwedd! Mark Drakeford (Llafur) yn trechu Neil McEvoy (Plaid Cymru) o ychydig dros 1,000 o bleidleisiau.

8.49am

Mae’n debyg mai’r rheswm am yr oedi yng Ngorllewin Caerdydd oedd bod pentwr o’r papurau pleidleisio etholaethol wedi mynd ar goll yng nghanol y papurau rhanbarthol. Blerwch. Mae rhai’n disgwyl cyhoeddiad yn fuan, ond pwy a wyr.

8.45am

Wrth i ni aros am y canlyniadau olaf, sut fydd y pleidiau’n asesu eu perfformiadau heno?

Fe alla Llafur ac UKIP fod yn falch iawn – Llafur, am eu bod nhw mwy neu lai wedi cadw’u holl seddi, a UKIP am eu bod wedi ennill y seddi yr oedd disgwyl iddyn nhw wneud.

Roedd hi’n noson gymysglyd i Blaid Cymru, a enillodd Rhondda ond methu mewn seddi targed eraill. Serch hynny, maen nhw’n debygol o fod yr ail blaid fwyaf yn y Cynulliad.

Fe fydd y Ceidwadwyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi ennill tir, ac mae wedi bod yn noson drychinebus arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Dydyn ni heb glywed fawr gan y Gwyrddion chwaith.

8.24am

Faint o seddi sydd gan bawb ar hyn o bryd, felly?

Llafur sydd ar y blaen, gyda 26 sedd etholaeth, ac fe fyddan nhw’n gobeithio ychwanegu’r sedd etholaeth olaf yng Ngorllewin Caerdydd at y nifer hwnnw.

Mae gan Blaid Cymru 10 hyd yn hyn – chwech yn yr etholaethau, a phedwar yn y rhanbarthau.

Y Ceidwadwyr sy’n drydydd gyda naw – chwe sedd etholaethol, a thri sedd ranbarthol.

Mae UKIP bellach fyny i bump, pob un yn dod o’r rhanbarthau, a’r unig un sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yw sedd Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Naw sedd i fynd, felly, sef Gorllewin Caerdydd a’r seddi yn rhanbarthau’r Canolbarth a’r Gorllewin, a Canol De Cymru.

8.17am

Canlyniad Rhanbarth Gorllewin De Cymru hefyd wedi’i gyhoeddi – ac mae’n newyddion da i Blaid Cymru, sydd yn cael dwy sedd o’i gymharu ag un yr un i’r Ceidwadwyr ac UKIP.

Mae’n golygu y bydd Bethan Jenkins a Dr Dai Lloyd yn cynrhychioli’r blaid yn y Cynulliad nesaf, gyda Suzy Davies yn cadw’i sedd dros y Ceidwadwyr, a Caroline Jones yn ennill sedd dros UKIP.

8.06am

Canlyniad Rhanbarth Dwyrain De Cymru wedi’n cyrraedd ni, ac mae UKIP yn cipio dwy arall.

Mark Reckless – y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol a UKIP – yw’r cyntaf, a David Rowlands yw’r ail. Steffan Lewis fydd yn mynd i’r Cynulliad am y tro cyntaf fel yr aelod o Blaid Cymru, a Mohammed Asghar sydd wedi ennill sedd y Ceidwadwyr.

8.00am

Tybed beth ydi’r rheswm am yr oedi yng Ngorllewin Caerdydd? Ydyn nhw’n dadlau dros arwyddion eto?

7.53am

Mae hynny wrth gwrs yn golygu fod Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli’i sedd – tipyn o bobol ar y cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed y rheiny sy’n cefnogi pleidiau eraill, yn dweud bod hynny’n golled.

7.48am

Aelodau Cynulliad cyntaf UKIP yn cael eu hethol yng Ngogledd Cymru!

Nathan Gill a Michelle Brown yw’r ddau aelod newydd, ac maen nhw’n ymuno a Llyr Huws Gruffudd o Blaid Cymru a Mark Isherwood o’r Ceidwadwyr.

7.39am

Tra’n bod ni’n aros am Orllewin Caerdydd, ‘ambell beth i gadw llygad arno o bosib wrth i’r pleidleisiau rhanbarthol gael eu cyfrif.

Fe wnaeth UKIP yn gymharol dda mewn sawl etholaeth, ac os ydi’r un niferoedd wedi pleidleisio drostyn nhw ar y rhestrau maen nhw’n siwr o ennill seddi ym mhob un o’r pum rhanbarth – gyda gobaith o ddau efallai mewn ardaloedd fel y Gogledd a’r De Ddwyrain.

Ymddengys fod y polau hefyd yn gywir am y Democratiaid Rhyddfrydol – mae eu niferoedd nhw wedi bod yn isel yn yr etholaethau drwy’r nos, ac mae’n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd yr un Aelod rhanbarthol yn ymuno a Kirsty Williams yn y Senedd pan fyddan nhw’n dychwelyd.

Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn hafal o ran seddi etholaethol ar hyn o bryd, felly bydd hi’n frwydr glos i weld pwy sydd yn hawlio mwy o seddi rhanbarthol ac felly’n dod yn brif wrthblaid. Wrth gwrs, os nad ydi Plaid yn ennill seddi rhanbarthol yn y Canolbarth a’r Gorllewin, mae’n golygu na welwn ni Simon Thomas na Helen Mary Jones yn y Cynulliad nesaf.

7.25am

Dim ond Gorllewin Caerdydd, ble mae Mark Drakeford yn amddiffyn y sedd dros Lafur, sydd heb gyhoeddi felly. Roedd hon yn un arall ble roedd Plaid Cymru’n credu y gallen nhw greu sioc, ond mae’n debyg nad yw eu hymgeisydd nhw Neil McEvoy wedi gwneud cweit digon i’w chipio.

Serch hynny mae’n bosib na fydd Neil McEvoy yn rhy siomedig – yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl Leanne Wood yn y Rhondda, fo sydd bellach yn geffyl blaen i gael ei ethol fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn rhanbarth Canol De Cymru.

7.20am

Y canlyniad wedi dod o Fro Morgannwg – Jane Hutt yn cadw’i sedd dros Lafur. Roedd hon yn un o seddau targed y Ceidwadwyr, ac er iddyn nhw gael 13,878 o bleidleisiau roedden nhw 777 yn brin o fuddugoliaeth.

7.09am

Angela Burns hefyd wedi cadw Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro dros y Ceidwadwyr, gyda mwyafrif cyfforddus. Roedd hon yn ras dair plaid ac roedd hi’n uchel ar restr targedau Plaid Cymru.

7.03am

Canlyniad arall wedi cyrraedd – Julie Morgan yn dal ei gafael yng Ngogledd Caerdydd yn sgil bygythiad y Ceidwadwyr.

6.43am

Yr ail gyhoeddiad o Gaerdydd, ac mae’r ymgeisydd Llafur Jenny Rathbone wedi cadw’i gafael ar y sedd er gwaethaf her y Democratiaid Rhyddfrydol, gyda mwyafrif o 917.

Ond dw i’n gwybod mai’r canlyniad ’dych chi wir eisiau ei wybod yw pwy ddaeth i’r brig yn y frwydr rhwng y ddau ymgeisydd sydd yn gyn-gystadleuwyr ar Big Brother.

Cafodd y Ceidwadwr Joel Williams 2,317 pleidlais, gan drechu Glyn Wise o Blaid Cymru gafodd 1,951.

6.35am

Paul Davies yn dal ei afael ar Breseli Penfro dros y Ceidwadwyr yn gyfforddus, gyda mwyafrif o bron i 4,000 dros yr ymgeisydd Llafur.

6.33am

Diolch i Ifan Morgan Jones am ei waith ar y Blog Byw dros nos – mae o bellach wedi mynd am hoe fach haeddiannol. Mi fydda i, Iolo Cheung, yn cadw cwmni i chi yn ystod yr oriau nesaf.

Rydan ni dal yn aros am ganlyniadau etholaethau Caerdydd a Sir Benfro, ond fel arall mae’r darlun ar draws Cymru yn un sydd fwy neu lai yn union fel yr oedd hi ddoe – dim ond un etholaeth, Rhondda, sydd wedi newid dwylo hyd yn hyn.

Nid dyna ddiwedd yr hwyl, fodd bynnag. Fe fydd y pleidleisiau rhanbarthol nawr yn cael eu cyfrif, a chydag 20 sedd ar gael dyma ble all pethau fynd yn ddiddorol. Mae UKIP a Phlaid Cymru wedi gwneud yn gymharol dda yn yr etholaethau, gan gynyddu canran eu pleidleisiau a dod yn ail mewn sawl lle – ai nhw fydd yn elwa fwyaf felly?

6.18am

Llafur wedi dal eu gafael ar Fro Morgannwg er gwaethaf bygythiad y Ceidwadwyr, mae’n debyg – bydd Jane Hutt yn dychwelyd i’r Cynulliad felly.

Buddugoliaethau disgwyliedig hefyd i Lafur ym Mhontypridd, a’r Ceidwadwyr yn Sir Fynwy.

6.15am

‘Chydig mwy o ymateb i chi ar ganlyniadau’r noson – mae Dr Eurfyl ap Gwilym o Blaid Cymru wedi bod yn ymateb i fuddugoliaeth syfrdanol Leanne Wood yn y Rhondda.

Ond fe rybuddiodd y byddai’n rhaid i’r blaid orffen yn ail a dod yn brif wrthblaid yn y Cynulliad os oedden nhw am ystyried y noson fel llwyddiant.

Yn y cyfamser mae Stephen Kinnock wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn hyderus y bydd Llafur yn agos at 30 o Aelodau Cynulliad – “canlyniad gwych” o ystyried beth oedd yn cael ei ddarogan ychydig wythnosau yn ol.

6.12am

Ta-ta Leighton – Dadansoddiad Dylan

Doedd neb wedi rhagweld buddugoliaeth i Blaid Cymru yn y Rhondda – brwydr dda, ie, ond nid ennill y sedd o fwyafrif o bron i 3,500.

Mae’n fuddugoliaeth anferth i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, er mai cymysg yw canlyniadau ei phlaid.

Mewn llawer o seddi eraill – gan gynnwys sedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, roedd Llafur wedi colli pleidleisiau ond wedi gwneud digon i ennill, wrth i UKIP rwystro’r un o’r pleidiau rhag ennill digon o dir.

Ac mae Cymru wedi gwrthod dilyn patrwm pendant – Plaid Cymru’n gwneud yn dda iawn yn y Rhondda, Blaenau Gwent a Chaerffili ond yn methu â gwneud marc yng ngweddill y Cymoedd ac yn colli o ychydig yn un o’u prif dargedi, Llanelli.

Gyda saith sedd ar ôl, mae Llafur ar y ffordd i ffurfio Llywodraeth – hyd yn hyn, dim ond un newid sydd wedi bod – yn y Rhondda.

6.07am

Carwyn Jones yn ennill mwyafrif o dros 5,500 ym Mhen-y-bont, dim syndod yn fanno. Ond tybed sut hwyliau sydd arno o ystyried darlun cenedlaethol ei blaid?

5.56am

Mae sibrydion bod y Ceidwadwyr wedi dal eu gafael ar Sir Benfro yn ei chyfanrwydd. Roedd Gorllewin Caerfyrddin a De Pennfro yn sedd darged arall i Blaid Cymru.

5.54am

De Caerdydd a Phenarth – Vaughan Gething wedi cadw’r sedd i Lafur gyda mwyafrif o 7,000.

5.53am

Ogwr – Mae cyn-Aelod Seneddol y sedd, Huw Irranca-Davies, bellach yn AC arni.

5.50am

Dywed Rhun ap Iorwerth ar Ynys Môn ei fod yn addo ad-dalu’r ffydd y mae pobl yn ynys wedi dangos ynddo dros y blynyddoedd i ddod.

5.42am

Llanelli – Lee Waters wedi cadw’r sedd i Lafur. Canlyniad siomedig i Blaid Cymru a oedd wedi disgwyl cipio’r sedd. Dim ond 382 o bleidleisiau oedd ynddi, gan sicrhau y bydd yn ornest galed rhwng y ddwy blaid unwaith eto yn 2021.

5.39am

Pa arweinwyr sy’n saff ar ôl heno? Carwyn Jones – wedi gwrthsefyll ymosodiad o bob ochor. Leanne Wood – wedi cracio’r Cymoedd. Kirsty Williams – does dim dewis arall.

Pwy sydd ddim yn saff? Andrew RT Davies – naill ai fe fydd yn ganlyniad hynod siomedig i’r Ceidwadwyr, neu fe fydd yn colli ei sedd ar y rhestr beth bynnag. Nathan Gill – bydd Neil Hamilton a Mark Reckless yn awyddus i gymryd yr awennau.

5.38am

Mae wedi bod yn noson siomedig i’r Ceidwadwyr hyd yma, yn dilyn eu methiant i ennill tir yn y gogledd-ddwyrain.

Serch hynny fe allent sicrhau buddugoliaeth ym Mro Morgannwg a Gogledd Caerdydd er mwyn rhoi sglein ar y cwbwl. Mae’r seddi hyn yn parhau yn agos ar hyn o bryd, ac ymddengys ar hyn o bryd bod Llafur wedi cadw Gogledd Caerdydd o leiaf.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wyneb bod yn blaid un aelod os nad ydyn nhw’n ennill Canol Caerdydd. Unwaith eto, mae’r sedd honno yn ymddangos yn agos iawn, ac yng nghyd-destun canlyniadau eraill y blaid yn y de ddwyrain nid oes rheswm amlwg iddynt fod yn obeithiol.

Mae’n bosib y gallai UKIP ennill hyd at 8 sedd – fe fyddant yn rym sylweddol yn y Cynulliad nesaf, os ydyn nhw’n penderfynu brwydro’n pleidiau eraill yn hytrach na’i gilydd!

5.29am

Jonathan Edwards yn dweud bod buddugoliaeth Leanne “ddim ond yn ail agos i fuddugoliaeth Gwynfor yn 1966” o ran arwyddocad.

5.20am

Mae noson wael i Blaid Cymru wedi ei droi ar ei ben yn yr hanner awr diwethaf, ac mae bellach yn ymddangos yn noson hanesyddol iddynt. Maent wedi sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn y Rhondda, wedi dod o fewn trwch blewyn i gipio Blaenau Gwent, ac wedi cynnyddu eu mwyafrifoedd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion ac Ynys Môn.

5.19am

Dywed Iolo Cheung o Gaerdydd:

“Fe ddywedodd Adam Price wrthai ‘chydig wythnosau yn ôl i gadw llygad ar y Rhondda – roedd Plaid Cymru’n dawel hyderus y gallen nhw wneud argraff.

“Roedd Jonathan Edwards yn gwenu fel giât yma yn y ‘stafell sbin wrth aros am y canlyniad swyddogol. Fe fydd hyn yn sicr yn hwb i arweinyddiaeth Leanne Wood, er gwaethaf y methiant i gipio seddau targed eraill.”

Llyr Huws Gruffydd yn dweud bod dod yn ail [yng Ngorllewin Clwyd] yn dangos bod Plaid Cymru yn symud yn y cyfeiriad cywir.

5.16am

Roedd sefyll yn y Rhondda yn risg sylweddol gan Leanne Wood, ac mae hi wedi sicrhau ei safle yn arweinydd Plaid Cymru – safel a allai fod wedi bod dan fygythiad yn sgil y methiant tebygol i ennill Llanelli.

5.15am

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr – Adam Price yn cadw sedd Rhodri Glyn Thomas i Blaid Cymru.

5.11am

Enilodd Leanne Wood gyda mwyafrif o 3,459 – 51% o’r bleidlais, a gogwydd o 24% i gyfeiriad Plaid Cymru.

5.06am

Ynys Môn – buddugoliaeth gyfforddus i Rhun ap Iorwerth. Plaid Cymru – 13,788, Llafur – 4,278, UKIP – 3,212.

5.03am

Mae Leanne Woood wedi ennill y Rhondda i Blaid Cymru! Canlyniad mawr y noson, a’r unig sedd i newid dwylo hyd yn hyn. Ymgeisydd y Blaid Lafur, Leighton Andrews, yn edrych yn bur anhapus.

5am

Elin Jones yn dweud ei fod wedi bod yn ymgyrch “weddol negyddol” gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion…

4.54am

Awgrym bod Plaid Cymru wedi ennill y Rhondda “yn gyfforddus”. Fe gredaf y peth pan y gwelaf ef!

Fe fyddai modd i Blaid Cymru hawlio ei fod wedi bod yn noson dda pe bai hyn yn digwydd, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cipio Llanelli.

4.51am

Rydym ar ddeall bod Rhun ap Iorwerth wedi derbyn ychydig dros hanner y pleidleisiau ar Ynys Môn.

4.48am

Llafur yn briffio bod Leanne Wood o bosib wedi ennill y Rhondda. Wel, wel… cawn weld.

4.46am

Mae trafod o sawl cyfeiriad bod Plaid yn obeithiol iawn yn Rhondda – mynd i fod yn agos iawn mae’n debyg. Ond o ystyried canlyniadau’r noson hyd yn hyn, ni ddylid codi gobeithion y bydd sedd yn newid dwylo yno!

4.45am

Dywed Iolo Cheung o’r ystafell sbin:

“Mae Plaid Cymru ac UKIP wedi dod yn ail gweddol mewn sawl etholaeth hyd yn hyn – calonogol i’r pleidiau hynny efallai, ond ddim yn ddigon i ennill seddi ar ddiwedd y dydd.

“Ond cofiwch fod y canlyniadau rhanbarthol eto i ddod, felly hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi ennill seddi etholaeth fe allai’r cynnydd yna mewn pleidleisiau wneud gwahaniaeth erbyn y bore o ran cipio ambell i sedd ychwanegol.”

4.43am

Caerffili – Hefin David yn cadw i’r Blaid Lafur.

Gwyr – Rebecca Evans wedi ei gadw i Lafur. Methiant arall gan y Ceidwadwyr i gipio sedd darged a lwyddwyd i’w gipio y llynedd.

4.42am

Does yr un sedd wedi newid dwylo hyd yn hyn – mae angen sgriptwyr newydd ar wleidyddiaeth Cymru.

4.41am

Pontypridd – Mick Antoniw yn cadw’r sedd i Lafur.

4.39am

Dadansoddiad Dylan:

“Mae Stephen Kinnock yn iawn. Mae AS Aberafan newydd grynhoi noson Llafur ar Radio Wales, trwy ddweud eu bod yn colli rhywfaint o bleidleisiau ond yn gwneud digon i gadw seddi.

“Mae Eurfyl ap Gwilym ar ran Plaid Cymru hefyd yn iawn, trwy ddweud bod etholiadau Cymru’n gymysgedd o ddylanwadau Prydeinig a rhai lleol iawn – oherwydd y cyfryngau y mae pobol yn eu dilyn.

“Ac mae buddugoliaeth gyfforddus arferol Dafydd Elis-Thomas ym Nwyfor Meirionnydd yn creu problem i arweinyddiaeth Plaid Cymru – a fyddan nhw’n tynnu’r chwip oddi arno am ei ddatganiadau am etholiad Comisiynydd yr Heddlu yng ngogledd Cymru.

“A phleidlais bersonol fwya’r noson bownd o fod – i arweinydd effeithiol y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, gyda chynnydd anferth yn ei chanran a’i mwyafrif … ac efallai mai hi fydd yn dal y fantol yn y Cynulliad nesa’ …”

4.38am

Clywed bod Rhun ap Iorwerth yn parhau ymhell ar y blaen yn Ynys Môn, ac yn agosau at y mwyafrif sylweddol a enillodd yn yr is-etholiad yn 2013.

4.31am

Ceredigion – Elin Jones o Blaid Cymru wedi cadw’r sedd gyda mwyafrif ychydig yn fwy, 2,408, nag yn 2011.

4.29am

Aberafan – David Rees wedi cadw’r sedd i’r Blaid Lafur.

4.27am

Mae Iolo Cheung wedi bod yn cadw llygad aros ar y canlyniadau hyd yn hyn.

“Y jôc yn y stafell sbin ydi bod Llafur newydd ennill eu sedd cyntaf o’r noson – Dafydd Elis-Thomas yn fuddugol yn Dwyfor Meirionnydd!”

Draw yn Aberconwy, Janet Finch-Saunders yn dweud wrth ein gohebydd Bethan Gwenllian ei bod hi’n dipyn o gamp dal ei gafael ar y sedd o ystyried ei bod hi wedi newid dwylo ym hob etholaeth hyd yn hyn.

4.23am

Brycheiniog a Mesyfed – Y Democratiaid Rhyddfrydol wedi osgoi colli pob un o’u seddi, o leiaf, wrth i’w harweinydd Kirsty Williams gadw ei sedd yn weddol gyfforddus. Fe fydd yn croesi bysedd y bydd cwmni iddi gan aelodau Canol Caerdydd a Cheredigion.

4.22am

Mae yna ail-gyfrif yn Llanelli ond y gred yw bod Llafur ar y blaen.

4.19am

Dwyfor Meirionydd – Ail-ethol Dafydd Elis-Thomas dros Blaid Cymru.

4.16am

Maldwyn – Ail-ethol Russel George dros y Ceidwadwyr.

4.15am

Aberconwy – Janet Finch-Saunders wedi ei hail-ethol dros y Ceidwadwyr. Dyna oedd un o brif seddi targed Plaid Cymru. Roedd 754 o bleidleisiau ynddi. Yn sgil eu methiant tebygol i gipio Llanelli, rwy’n credu bod hwn yn noson siomedig iddynt, os nad oes sioc mawr yn y Rhondda.

4.14am

Dadansoddiad Dylan:

“Er nad yw’r sedd wedi newid dwylo, canlyniad mwya’ rhyfeddol y noson hyd yn hyn yw Blaenau Gwent lle daeth Plaid Cymru o fewn ychydig tros 600 i Lafur.

“Doedd neb wedi darogan canlyniad mor agos ond mae sôn am ganlyniad agos rhwng y ddwy blaid yng Nghaerffili hefyd – cadrnhad o deimlad Plaid Cymru eu bod yn gwneud yn dda yn y Cymoedd.

“Fe allai hynny fod yn llwyfan iddyn nhw ar gyfer yr etholiadau nesa’ … yng ngweddill y canlyniadau hyd yn hyn, does yr un blaid wedi llwyddo i herio Llafur o ddifri, wrth i UKIP rannu’r gwrthwynebiad iddyn nhw fwy nag erioed.

“Mae pleidlais a chanran Llafur wedi gostwng yn y rhan fwya’ o seddi, ond maen nhw wedi cael noson lwyddiannus iawn ac fe fydd cwestiynau’n cael eu codi am berfformiad y Ceidwadwyr dan arweiniad Andrew R T Davies.

“Ac, yng ngogledd Cymru, wrth i Aled Roberts fethu ag ennill yn Ne Clwyd mae’n annhebyg iawn y bydd yn cael sedd ranbarthol chwaith.”

4.12am

Castell-nedd – Jeremy Miles, wyneb newydd arall, yn cadw’r sedd i Lafur.

4.08am

Cwm Cynon – Vikki Howells, wyneb newydd yn y Cynulliad, yn cadw’r sedd i Lafur. Cerith Griffiths o Blaid Cymru yn yr 2il safle.

4.05am

Gorlllewin Casnewydd – Jane Bryant o Lafur yn cadw’r sedd.

4am

De Clwyd – Ken Skates wedi cadw’r sedd i Lafur.

3.59am

Ymddengys bod Plaid Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais yn y Cymoedd. Ond a fydd yn ddigon i ennill unrhyw seddi – beth am y Rhondda?

3.58am

Gorllewin Abertawe – Julie James o’r Blaid Lafur yn cadw’r sedd.

3.52am

Blaenau Gwent – Alun Davies o’r Blaid Lafur yn cadw’r sedd. Plaid Cymru o fewn 650 pleidlais, newid mawr o’r 9,000+ yr oedd gan Lafur yn 2011.

3.50am

Islwyn – Rhianon Passmore yn ei chadw i’r Blaid Lafur.

3.43am

Dwyrain Casnewydd – John Griffiths o Lafur yn cadw’r sedd. UKIP yr ail safle, a’r Ceidwadwyr yn 3ydd.

Ymddengys bod UKIP yn dwyn pleidleisiau gan bob plaid heblaw am Blaid Cymru ar hyn o bryd.

3.39am

Arfon – Gwyneb newydd arall, Sian Gwenllian, yn cadw’r sedd i Blaid Cymru, gan olynu Alun Ffred Jones. Ymgeisydd Llafur, Sion Jones yn yr ail safle. “Buddugoliaeth i ferched canol oed sydd â thân yn eu boliau,” meddai Sian Gwenllian. Mwyafrif o 4,162, sy’n weddol gyfforddus mewn sedd fychan iawn.

3.38am

Mae’n frwydr rhwng Llafur a Plaid Cymru yng Nglyn Ebwy yn parhau i fod yn agos. A yw Plaid yn ennill tir yn y cymoedd?

3.36am

Merthyr Tudful – Wyneb newydd, Dawn Bowden o Lafur, yn olynu Huw Lewis yn y sedd. UKIP yn ail a Plaid Cymru yn 3ydd.

3.31am

Wrecsam – Lesley Griffiths o Lafur sy’n cadw’r sedd. 1,325 o bleidleisiau dros y Ceidwadwyr. Plaid Cymru yn 3ydd ac UKIP yn 4ydd.

3.30am

Mae’n debygol y bydd angen ail-gyfrif yng Nghaerffili lle mae’n agos iawn rhwng Llafur a Phlaid Cymru,

3.29am

Mae gwleidyddiaeth yn wahanol iawn yn yr Alban. Mae Llafur yn colli tir yno, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn codi o’r lludw. Mae Willie Rennie newydd gipio Fife oddi ar yr SNP.

3.24am

Dadnsoddiad Dylan:

“Gyda’r holl ganlyniadau hyd yn hyn o’r Gogledd-ddwyrain, mae yna batrwm bach yn datblygu – Llafur yn llwyddo i gadw seddi wrth i’r gwrthwynebiad rannu.

“Roedd pleidlais UKIP yn ddigon i achub Ann Jones yn Nyffryn Clwyd, wrth i’r Ceidwadwyr fethu â chael y gaseg eira i rowlio’n ddigon cyflym.

“Yn Delyn hefyd, roedd y bleidlais Lafur i lawr ychydig ond mae’n amlwg fod UKIP wedi tynnu pleidleisiau oddi ar y Ceidwadwyr hefyd.”

3.21am

Dwyrain Abertawe – Mike Hedges o Lafur yn cadw’r sedd. UKIP yn yr ail safle a Plaid Cymru yn drydydd. Llafur wedi colli 6% ac UKIP wedi esgyn 16%.

3.18am

Roedd 56.3% wedi pleidleisio yng Ngheredigion, a 48.8% yn Sir Drefaldwyn.

3.07am

Dyffryn Clwyd – Ann Jones o’r Blaid Lafur, sydd wedi bod yn AC ers 1999, wedi ei hethol i’r Cynulliad unwaith eto. Y Ceidwadwyr 768 o bleidleisiau yn brin yn unig, a siom iddynt hwy ar ôl cipio’r sedd yn Etholiad Cyffredinol y llynedd.

3.05am

Delyn – Llafur wedi cadw’r sedd. Hannah Blythyn yw’r AC newydd cyntaf i gael ei hethol.

3pm

Dyffryn Clwyd oedd un o obeithion mawr y Ceidwadwyr yng ngogledd Cymru, ond ymddengys bellach bod Llafur wedi dal gafael ar y sedd.

2.55am

Canlyniad is-etholiad Ogwr i San Steffan. Mae Christopher Elmore o Lafur wedi dal y sedd yn gyfforddus fel y disgwyl. Daeth UKIP yn 2il a Phlaid Cymru yn 3ydd. Roedd cynnyd 6% i Blaid Cymru, ac 1% i UKIP ar y llynedd.

2.53am

Dywed Iolo Cheung o Gaerdydd:

“Diddorol gweld mai Plaid Cymru oedd yr unig un o’r prif bleidiau oni bai am UKIP i gynyddu canran eu pleidlais yn Alyn a Glannau Dyfrdwy – plaid Nigel Farage ddim wedi dwyn cymaint o bleidleisiau oddi arnyn nhw ag y maen nhw wedi i’r pleidiau eraill?

“Mae hi ‘chydig yn fflat o hyd yn y stafell sbin yma yng Nghaerdydd – canlyniadau hwyrach na’r disgwyl yn ffactor dw i’n siŵr.”

2.52am

Bethan Gwenllian yn Llandudno:

“49.48% o bobl wedi pleidleisio yn Aberconwy. Y cyfrif yn cychwyn rŵan, ac ar hyn o bryd mae disgwyl canlyniad rywbryd rhwng 5yb a 7yb.

“Mae Julian Huw Mahy o’r Blaid Werdd yn credu bydd momentwm ei blaid yn cynyddu wrth edrych at y dyfodol. Dywedodd bod mwy a mwy o bobl yn cychwyn gweld effeithiau amgylcheddol ac bod y Blaid Werdd yng Nghymru yn cychwyn ar eu taith.

“Wrth son am y ddadl rhwng yr arweinwyr ar y BBC yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd ei fod yn credu bod Alice Hooker-Stroud wedi llwyddo i leisio barn y blaid ac wedi siarad o’r galon. Mae Mahy, sy’n ymgeisydd yng Ngorllewin Clwyd yn credu gall y Blaid Werdd yng Nghymru gael yr un llwyddiant a’r Blaid Werdd yn Lloegr a’r Alban yn y dyfodol.”

2.50am

Er fod eu canran wedi syrthio, mae Wayne David o’r Blaid Lafur yn dweud eu bod yn hapus gyda chanlyniad Alyn a Glannau Dyfrdwy ac UKIP yn ffyddiog fod maint eu pleidlais nhw’n addo o leia’ un sedd ranbarthol.

Julie Morgan, Llafur, yn swnio ychydig yn ddigalon am eu gobeithion yng Ngogledd Caerdydd ond ei gŵr, y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn fwy calonog – ardaloedd cryf gan Lafur a’r Ceidwadwyr, meddai.

Sian Gwenllian yn Arfon yn dweud ei bod hi a Phlaid Cymru’n gwenu a’r Aelod Seneddol Jonathan Edwards yn darogan pleidlais gref i’w blaid ar draws y Cymoedd … rhai’n dweud bod  sedd Blaenau Gwent yn ddiddorol.

2.44am

Does dim disgwyl canlyniad yng Ngheredigion nes 5am.

Er gwybodaeth, roedd disgwyl naw sedd erbyn hyn!

Mae disgwyl canlyniadau Wrecsam a De Clwyd wap.

2.39am

Dadansoddiad Dylan Iorwerth:

“Dim syndod, wrth i Lafur gadw sedd saffa’r Gogledd-ddwyrain … ond arwydd hefyd fod canran eu pleidlais i lawr.

“Yr hyn sydd wedi achub Carl Sergeant rhag gornest glosiach fyth yw fod y gwrthwynebiad wedi’i rannu, wrth i UKIP gystadlu am y tro cynta’.

“Mae’n ymddangos eu bod wedi tynnu pleidleisiau oddi ar y ddwy blaid fawr ac efallai’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.

“Fe fydd Plaid Cymru’n gymharol fodlon gyda chynnydd bychan.”

2.31am

Canlyniad o’r diwedd yn Alyn a Glannau Dyfrdwy – Carl Sargeant o Lafur yn cadw’r sedd. Llafur a’r Ceidwadwyr i lawr 7%, UKIP i fyny 17%, Plaid i fyny 1%.

Ymddengys bod Llafur wedi pryderu’n ormodol yn wyneb her y Ceidwadwyr ac UKIP yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

2.29am

Nid yw’r Blaid Lafur yn gwneud cystal yn yr Alban – maent wedi colli un sedd i’r SNP, ac un arall i’r Ceidwadwyr.

2.27am

Nid yw’r cyfrif hyd yn oed wedi dechrau yn Llanelli eto, yn ôl yr ymgeisydd Llafur yno, Lee Waters.

2.21am

Wel, wel – mae’r Ceidwadwyr bellach yn credu eu bod nhw wedi methu a chipio Gogledd Caerdydd.

Awr yn ôl roedd sibrydion bod sawl sedd yn y fantol, erbyn hyn ymddengys bod Llafur wedi llwyddo i amddiffyn bron y cwbwl.

Ymddengys mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghanol Caerdydd yw un o’r gobeithion gorau am newid sedd o ddwylo un plaid i’r llall erbyn hyn!

2.20am

Yn ôl gohebydd Cynulliad Golwg, Gareth Hughes, fe fydd hi’n agos yng Nghaerffili rhwng Llafur, UKIP a Phlaid Cymru, ond Llafur sydd yn debygol o fynd a hi.

2.18am

Roedd 51.4% wedi pleidleisio yn Arfon, sydd yn nifer uchel iawn. Maent newydd ddechrau cyfri’. Mae Plaid yn ffyddiog o gadw’r sedd.

Y cyfrif ar fin dechrau yng Ngheredigion.

2.14am

Mae UKIP yn honni eu bod wedi cipio chwarter y bleidlais yn Nwyrain Caerfyrddin.

2.12am

Diddorol – mae Llafur yn dweud bod llawer o bleidlais yr wrthblaid wedi symud o’r Ceidwadwyr i Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd. Mae Llafur dan warchae gan dair plaid wahanol mewn tair gwahanol ran o’r brifddinas.

2.09am

Pawb yn gytun y byddai canlyniad yn beth braf erbyn hyn – ac roedd disgwyl y bydden ni wedi derbyn cryn dipyn erbyn hyn. A yw toriadau i gylidebau cynghorau wedi effeithio ar eu gallu i brosesu’r canlyniadau? A yw rhwydwaith drefnidiaeth Cymru yn rhy wael i gario’r blychau o le i le? A yw pleidleisiau Comisiynwyr yr Heddlu yn arafu’r broses?

2am

Mae Kirsty Williams yn edrych braidd yn anhapus ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae disgwyl iddi gadw’r sedd – ond efallai y bydd hi’n unig iawn yn y Senedd.

1.50am

Mae Llafur bellach yn weddol hyderus o gadw Llanelli. Os yw’r darogan am Aberconwy hefyd yn wir, ymddengys bod nifer o seddi targed Plaid Cymru y tu hwnt i’w gafael.

Ymddengys eu bod yn eithaf ffyddiog o gadw Ceredigion erbyn hyn – ond a fydd y blaid yn hapus i aros yn ei hunfan unwaith eto?

1.47am

Wedi’r pryderon ynghynt y gallai Llafur golli Wrecsam a De Clwyd, mae’n debyg eu bod bellach yn hyderus iawn o’u cadw.

1.43am

Mae’n debygol y bydd un o’r seddi yr oedd disgwyl iddo newid dwylo, Gogledd Caerdydd, yn gwneud hynny. Nid yw Julie Morgan yn hyderus.

Mae Mark Drakeford, AC Llafur Gorllewin Caerdydd, wedi cyrraedd y cyfrif yng Nghaerdydd ac yn edrych yn hyderus. Mae disgwyl y canlyniad tua 4:30 – 5:00.

Mae yna lawer iawn o gwyno am ddiffyg wifi, cwsg a choffi!

1.42am

Janet Finch-Saunders yn credu bod y Ceidwadwyr wedi cadw Aberconwy. Dywedodd bod yr etholiad yn 2011 yn un agos hefyd ond fel yn 2011, bod rhaid cadw’r ffydd. Wrth edrych yn ôl ar ei hymgyrch dywedodd bod pobl yn awyddus am newid ac er bod y sgandal Papurau Panama wedi newid yr ymateb at ei hymgyrch ychydig bod pobl yn deall bod rhaid cael newid o’r Blaid Lafur.

1.41am

Mae Jamie Thomas wedi bod yn siarad ag arweinydd UKIP Nathan Gill yn y cyfrif yn Llangefni:

“Os yw’r polau’n darogan yn gywir, fe fyddwn ni’n hapus tu hwnt. Ein nod ni oedd cael cynrychiolydd UKIP i bawb yng Nghymru, felly rhywun ym mhob rhanbarth, ac fe fyddai unrhyw beth yn fwy na hynny yn wych i ni.

“Rydyn ni wedi bod yn dweud ers sbel fod pethau’n edrych cystal i ni ag oedden nhw llynedd, ac mewn rhai ardaloedd hyd yn oed mor dda a’r etholiadau Ewropeaidd.”

Ychwanegodd fod ymgeisydd UKIP yn Môn, Simon Wall, wedi gweithio’n galed a’i fod yn credu y gallai’r blaid orffen yn drydydd o flaen y Ceidwadwyr.

1.38am

Pa mor ddoeth ydoedd i Leanne Wood sefyll yn y Rhondda? Os yw hi’n ennill y sedd fe fydd y gambl wedi talu ar ei ganfed, wrth gwrs, ond fe allai colli a methu ag ennill seddi yn Llanelli, Aberconwy neu Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro fod yn ergyd i’w harweinyddiaeth.

Maen debyg bod pethau’n dynn yno ar hyn o bryd…

1.35am

Mae Plaid Cymru yn teimlo ychydig yn fwy hyderus yng Ngheredigion wrth i’r bocsys o’r trefi ddechrau cyrraedd.

Wedi ryw awr o feddwl y gellir gweld newidiadau mawr iawn yn nifer y seddi, mae pethau fel petaent yn dychwelyd yn ôl i’r disgwyl.

1.32am

A yw pethau’n dynn yng Ngorllewin Caerdydd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru? Mae Neil McEvoy wedi cynnal ymgyrch frwdfrydig yno, a bu’r sedd yn destun cyhuddiadau ynglŷn â thynnu arwyddion i lawr.

Dywed y Western Mail bod y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi gwrthod cynnal cyfweliad.

1.30am

Mae Rhodri Morgan wedi bod yn trafod yr etholiad, ymgyrch ei wraig Julie yng Ngogledd Caerdydd, a Jeremy Corbyn.

1.23am

Nid yw’r papurau pleidleisio yn Arfon wedi eu dilysu eto, sy’n syndod o ystyried mai dyna’r sedd leiaf yng Nghymru.

Yn y cyfamser rydw i eisoes wedi dechrau ar y siocledau a’r lucozade fan hyn.

1.21am

Mae bocsys tref Llanbedr pont Steffan (cartref Golwg wrth gwrs) yng Ngheredigion yn cael eu cyfri’ ar hyn o bryd, ac yr awgrym yw bod Plaid Cymru ar y blaen.

1.17am

Ymddengys yn debygol y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn osgoi cyflafan llwyr – mae disgwyl i Kirsty Williams gadw Brycheiniog a Sir Faesyfed. Mae’n gynnar eto felly mae’n rhaid bod y pleidleisiau yn eithaf amlwg o’i phlaid.

1.11am

Cyfweliad â Rhun ap Iorwerth – mae’n canmol arweinyddiaeth Leanne Wood.

Ymddengys bod hinsawdd gwahanol o fewn Plaid Cymru o’i gymharu â 2011, beth bynnag y canlyniad.

1.06am

Dychwelwn i bwnc Plaid Cymru yn cael eu cynrychioli gan y lliw melyn ar y BBC. Dywed uwch swyddog cyfathrebu PC: “I fod yn glir – y dewis roddwyd i Blaid Cymru gan y BBC oedd newid ein logo i babi gwyrdd neu derbyn bod yn felyn ar y map.”

Fe fydd Golwg 360 yn rhoi rhwydd hynt i bleidiau ddefnyddio pa bynnag liwiau, neu gyfuniad amryliw o liwiau, y maent yn eu dymuno, wrth gwrs.

1.03am

Mae Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei fod yn rhy gynnar i wybod beth fydd y canlyniad yng Ngheredigion. Mae disgwyl iddi fod yn agos.

1am

Newyddion da i Blaid Cymru. Yn ôl pôl piniwn ITV, y nhw sydd wedi cynnal yr ymgyrch etholiadol orau.

Plaid 11% Llafur 10% UKIP 5% Ceid 5% Dems Rhydd 2%. 43% Neb.

12.54am

Mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Ynys Môn, Clay Theakston, wedi dweud wrth Jamie Thomas ei fod yn bwriadu sefyll eto, er gwaetha’r canlyniad siomedig. Dywed Nathan Gill ei fod yn hyderus y bydd UKIP yn drydydd yn y sedd. Serch hynny mae’n ymddangos y byddant yn ail. Fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi mewn tua awr.

12.52am

Y canlyniad cyntaf – ond o’r Alban – y Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw Orkney yn gyfforddus gyda 67% o’r bleidlais. Comeback!

12.47am

Mae Llafur eu hunain bellach yn dweud ei fod yn agos iawn yn Ne Clwyd. Ymddengys y gall fod yn etholiad diddorol iawn os yw nifer o’r seddi ymylol hyn yn llithro o afael y blaid fwyaf. Mae pethau’n edrych yn obeithiol i’r Ceidwadwyr mewn sawl sedd bellach.

12.41am

Sion Jones, ymgeisydd Llafur yn Arfon, yn dweud eu bod nhw wedi codi eu pleidlais gryn dipyn. Nid yw hynny’n gyfystyr ag ennill, wrth gwrs, o ystyried ei fod yn sedd weddol gadarn i Blaid Cymru.

12.38am

Sibrydion di-sail sydd gen i unwaith eto – pethau’n agos rhwng Plaid, Llafur ac UKIP yng Nghaerffili. Dyma un o’r seddi y gwnaeth UKIP yn dda ynddi yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. Mae’r un peth yn wir yng Nghastell Nedd ac Aberafan. A allai UKIP ganiatau i Blaid Cymru oddiweddyd Llafur mewn rhai seddi annisgwyl?

12.36am

Mae Neil Hamilton wedi gwrthod cefnogi Nathan Gill yn arweinydd UKIP yng Nghymru. Fe fydd y blynyddoedd nesaf yn rai diddorol, o leiaf.

12.30am

Mae’r holl flychau pleidleisio wedi cyrraedd cyfri’ Ceredigion o’r diwedd, wedi chryn oedi. Mae disgwyl canlyniad tua 4am, ychydig yn hwyrach na’r disgwyl. Ond mae’n bosib y bydd argraff reit gryf o’r canlyniad cyn hynny.

12.26am

Mae Bethan Gwenllian wedi bod yn siarad ag ymgeisydd UKIP yng Ngorllewin Clwyd – sydd yn sefyll yn erbyn ei frawd yng nghyfraith, Darren Millar, yr ymgeisydd Ceidwadol!

Roedd ymgeisydd UKIP Gorllewin Clwyd David Edwards mewn syndod gyda llwyddiant ei ymgyrch. Mae’n credu bod UKIP wedi gwneud yn dda yn rhannol oherwydd diddordeb pobl yn y refferendwm ar Ewrop ond hefyd oherwydd eu hagwedd at iechyd. Dywedodd bod pobl wedi syrffedu gyda’r Blaid Lafur a’u methiannau gyda’r GIG. Credodd hefyd bod y sefyllfa yn Lloegr gyda’r contractau i feddygion iau wedi cael effaith negyddol ar y Ceidwadwyr yma yng Nghymru ac wedi rhoi’r cyfle i UKIP gipio pleidleisiau gan y Blaid Geidwadol.

12.24am

Un si sydd yn gredadwy yw y gallai Plaid Cymru ennill yn Aberconwy.

12.15am

Mae’n anodd iawn dadansoddi y sion sydd yn dod i mewn ar hyn o bryd. Mae awgrymiadau yng ngogledd Cymru y gall hyd yn oed Wrecsam fod yn y fantol, yn y de, bod Blaenau Gwent yn simsanu. Mae hyn yn ymddangos yn annhebygol iawn i mi – byddai yn chwalfa anferthol i Lafur, a does dim yn y polau piniwn i awgrymu’r fath beth. Y gwirionedd efallai yw bod Llafur wedi colli tir, ond mai ychydig flychau pleidleisio sydd wedi eu cyfri, ac o ganlyniad mae’r darlun yn parhau yn weddol aneglur. Rydym yn y ‘limbo’ ar hyn o bryd rhwng y gorsafoedd pleidleisio yn cau a syniad pendant o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu.

12.11am

I fyny yn yr Alban, mae’r SNP yn hyderus eu bod wedi ennill pob sedd yn Glasgow. Noson wael iawn i’r Blaid Lafur yno felly. Maent yn awgrymu eu bod am ddod yn drydydd, y tu ôl i’r Ceidwadwyr.

12.08am

Clip sain arall – o gyfweliad â Alun Cairns yn Mro Morgannwg.

12.04am

Gwrandewch ar glip sain o gyfweliad â Lleu Williams o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

11.58pm

Y peryg i Blaid Cymru yw eu bod yn pentyrru pleideisiau mewn seddi saff megis Arfon ac Ynys Môn, ac yn dod yn ail agos ym Mlaenau Gwent a’r Rhondda, ond yn syrthio’n fyr yn y seddi targed megis Llanelli a De Penfro.

11.47pm

Dyma etholiad UKIP, meddai Dylan Iorwerth:

“Etholiad UKIP fydd hwn. Nid dim ond oherwydd y posibilrwydd y byddan nhw’n ennill seddi am y tro cynta’ ond hefyd oherwydd eu dylanwad ar seddi eraill.

“Mewn sawl etholaeth, mae’n bosib mai eu pleidlais nhw fydd yn gwneud y gwahaniaeth a’u cryfder nhw fydd yn penderfynu a gaiff y Democratiaid Rhyddfrydol seddi rhestr o gwbl.

“Ym mhob sedd agos, mi fydd maint pleidlais UKIP yn allweddol ond pwysicach fyth fydd ffynhonnell y bleidlais honno – o ble fydd hi’n dod.

“Yn etholiadau San Steffan, fe lwyddodd i dynnu oddi ar bob plaid ac, yn y seddi allweddol, mi allai achub rhai o’r aelodau presennol trwy fynd â pheth o’r bleidlais brotest.

“Mewn seddi fel Llanelli, Bro Morgannwg, Canol a Gogledd Caerdydd a rhai o seddi’r Gogledd-ddwyrain, mae’r posibilrwydd yn amlwg ond mi allai wneud gwahaniaeth hyd yn oed mewn sedd fel Ceredigion – petai’n mynd â chyfran fawr o’r pleidleisiau gwrth-Plaid Cymru.

“Y Gwasanaeth Iechyd ydi’r un elfen fawr arall, yn y Gogledd yn arbennig. Os bydd pobol eisiau cosbi Llafur am hynny, mi allai seddi newid dwylo fel yn etholiadau San Steffan.”

11.45pm

Mae’n debyg bod Llafur yn dawel hyderus yn Llanelli ar ôl taflu popeth at y sedd. Fe fyddai hynny’n ganlyniad siomedig iawn i Blaid Cymru – dyma eu sedd darged pennaf. Ond mae’n rhy gynnar i wybod i sicrwydd.

11.42pm

Mae’n gohebydd ni yn Llandudno Bethan Gwenllian yn cadw llygad ar y brwydrau yn Aberconwy a Gorllewin Clwyd, ble mae disgwyl brwydrau hynod ddiddorol heno.

Oes gan Blaid Cymru siawns o ennill un o’r seddi? Doedd yr ymgeisydd ddim i’w weld yn awyddus i ddweud gormod yn rhy gynnar yn y noson.

“Trystan Lewis yr ymgeisydd Plaid Cymru yn credu y bydd hi’n frwydr agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn Aberconwy,” meddai Bethan Gwenllian.

“Wedi gofyn os oedd o’n credu ei fod wedi gwneud digon i ennill yn Aberconwy, ac fe ddywedodd o nad oedd yn credu y gallai wedi gwneud mwy gyda’i ymgyrch.”

11.37pm

Rhagor gan Owain Hughes o Geredigion: “Gethin James yn hyderus y fydd UKIP yn cael o leiaf 5 sedd, i gyd o’r rhestr rhanbarthol. Cyffro yma yng Ngheredigion, yn enwedig ymysg cefnogwyr Plaid Cymru ac yr Democrataidd Rhydfyddol.”

‘O leiaf pum sedd’ oedd beth gafodd ei ddarogan gan Nigel Farage hefyd – ond ai UKIP sydd yn ceisio lleihau disgwyliadau yn fan hyn, o gofio fod y pôl diwethaf wedi awgrymu y bydden nhw’n cael wyth, rhag ofn iddyn nhw gael eu siomi ar y noson?

Ni fyddai un sedd ym mhob un o’r pum rhanbarth yn ddigon i ethol Gethin James ei hun, wrth gwrs – mae o’n ail ar restr UKIP yn y Canolbarth a’r Gorllewin y tu ôl i Neil Hamilton.

11.35pm

Fe fydd is-etholiad i ethol Aelod Seneddol Ogwr heno hefyd wrth gwrs, gan bod Huw Irranca-Davies wedi rhoi gorau i’w sedd yn y gobaith o sicrhau dyrchafiad i’r Cynulliad. Mae disgwyl iddo ef, a’i olynydd yn ymgeisydd Llafur Chris Elmore, gael eu hethol yn gymharol ddi-ffwdan.

Dydw i ddim am dreulio gormod o amser yn trafod gwleidyddiaeth y DU gan bod hwnnw yn cael gormod o sylw yn y wasg beth bynnag – ond os yw Llafur yn cael noson wael yng Nghymru fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Jeremy Corbyn, yn debygol o ddod dan bwysau sylweddol gan adain ‘gymhedrol’ ei blaid. Mae’n annhebygol serch hynny y bydd unrhyw ymgais i’w ddisodli yn y tymor byr oherwydd ei boblogrwydd ymysg aelodau’r blaid.

11.33pm

Dyna ni – rydyn ni newydd fod yn trafod Bro Morgannwg, ac mae sion eisoes bod Jane Hutt mewn trafferthion yno. Os yw hynny’n wir rwy’n teimlo y gallai fod yn etholiad gwell i’r Ceidwadwyr nag y mae’r polau piniwn yn ei awgrymu, ac dipyn gwaeth i Lafur.

11.30pm

Mae DJ Bry wedi cyhoeddi fideo newydd yn trafod yr etholiad. Gwyliwch yma.

11.30pm

Sedd arall i’w gwylio –

Bro Morgannwg – Dyma sedd arall y bydd y Ceidwadwyr yn gobeithio ei hennill os ydynt am allu hawlio noson dda. Fel yr awgrymwyd isod, efallai na fydd eu harweinydd Andrew RT Davies mor awyddus â hynny – oherwydd fe allai golli ei sedd ar rest Canol De Cymru o ganlyniad!

Mae’r Ceidwadwyr yn dal y sedd hon yn San Steffan, ac fe fyddant yn awyddus i argyhoeddi’r un pleidleiswyr i’w cefnogi eto. Dyma’r math y sedd lle y gallai data ynglŷn â’r cefnogwyr, a’r tectegau gorau i’w hannog i bleidleisio, fod yn allweddol.

Jane Hutt, ymgeisydd y Blaid Lafur, yw o bosib yr AC mwyaf profiadol yng Nghymru – mae wedi gwasanaethu ym mhob cabinet ers 1999. Ross England sy’n herio ar ran y Ceidwadwyr.

11.27pm

Ymddengys bod arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi awgrymu y bydd yn colli ei sedd ar y rhestr yn Aelod Cynulliad – a hynny o bosib oherwydd y gallai ei blaid ennill seddi etholaeth yng Nghanol De Cymru.

11.23pm

Mae Jamie Thomas wedi cael sgwrs â Rhun ap Iorwerth, sy’n dweud bod pethau’n edrych yn dda iawn ar  Ynys Môn ond ei fod yn ddyddiau cynnar.

11.20pm

Dyma rai o sylwadau cynrychiolwyr y pleidiau ar y gwahanol gyfryngau ar ddechrau’r noson.

Yn ôl yr AS Guto Bebb, mae’r Ceidwadwyr yn gwneud yn dda mewn brwydrau yn erbyn Llafur – fel seddi Caerdydd a’r cyffiniau efallai – ond yn fwy cymysg yn erbyn y lleill. Roedd yn cydnabod bod gan Blaid Cymru ymgyrch gry’  yn ei sedd ei hun yn Aberconwy ond y gallai diffyg ymgeisydd UKIP gadw’r sedd i’r Ceidwadwyr.

Dyw Eluned Morgan o’r Blaid Lafur ddim yn disgwyl y byddan nhw’n gwneud cystal â’r tro diwetha’ ac mae’n credu y bydd UKIP yn gwneud gwahaniaeth mewn sawl wedd. Roedd elfen o lwc wedi sicrhau rhai seddi’r tro diwetha’, meddai gyda dwy sedd â mwyafrif o ychydig dros 100 rhyngddyn nhw – Llanelli a Chanol Caerdydd fyddai’r rheiny.

Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru oedd yn swnio fwya’ hyderus yn dweud yn bendant eu bod yn anelu am yr ail le. Roedd yn gobeithio’n gry’, meddai, am fuddugoliaethau yn Llaenlli a hyd yn oed Gorllewin Caerfyrddin a Phenfro ac yn crybwyll Aberconwy hefyd.

Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn tanseilio’r proffwydi gau eto, meddai un o’u hymgeiswyr nhw, Rhys Taylor, wrth ddarogan y byddai eu harweinydd, Kirsty Williams, yn cadw Brycheiniog a Maesyfed a chodi gobeithion am fuddugoliaeth yng Nghanol Caerdydd – ond roedd yn fwy amheus am y seddi rhanbarthol.

Fe fydd UKIP yn ennill o leia’ un sedd ym mhob rhanbarth, meddai eu hymgeisydd yn Llanelli, Ken Rees – dyna gyfanswm o bump.

11.15pm

Sedd arall i’w gwylio –

Brycheiniog a Sir Faesyfed – Dyma fyddai rhyferthwy i’r Democratiaid Rhyddfrydol, pe bai’r sedd yma yn syrthio i’r Ceidwadwyr. Caer fechan olaf y deryn melyn yng Nghymry yw hon, a sedd eu harweinydd Kirsty Williams. Fe enillodd y Ceidwadwyr y sedd hon heb ormod o drafferth yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. Pe bai hynny’n digwydd eto, fe allai fod y Dems Rhydd fod yn ‘ex-parrot’ cyn iddi wawrio. Mae disgwyl y canlyniad am 3am.

A yw’r haul wedi machlyd arnynt am y tro olaf? Cawn weld!

11.12pm

Diweddariad gan Jamie Thomas o Ynys Môn. Ychydig o focsys sydd wedi eu cyfri, ond o’r bocsys sydd wedi eu cyfri eisoes “fe fydd yn eithaf clir”. Mae oddeutu 65% o blaid Rhun hyd yn hyn meddai.

11.05pm

Mae’r hybarch Holyhead Mail yn adrodd bod Rhun ap Iorwerth wedi ennill tua 70% o’r pleidleisiau yn y bocsys cyntaf i gyrraedd Ynys Môn. Pwy o wyr o le a ddaeth y bocs… ond mae’n gaddo’n dda i Blaid Cymru yno.

11pm

Sedd arall i’w gwylio –

Ceredigion – Fe ddylai hon fod yn sedd saff i Blaid Cymru, ond fe lwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ddal gafael ynddi y llynedd er iddynt golli seddi ym mron i bobman arall yn y Deyrnas Unedig. Does dim awgrym gwirioneddol bod y sedd mewn peryg, ond os yw’r Dems Rhydd am osgoi crebachu i blaid un neu ddau aelod rhaid iddynt ennill hon.

Fel y soniwyd eisoes bu’r sedd yn destun cryn dipyn o sylw yn y wasg yn barod, o ganlyniad i haeriad gan Blaid Cymru bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi camddehongli un o’u polisiau mewn modd anonest. Daw hyn yn dilyn cyhuddiaddau tebyg o driciau budr yn yr etholiad y llynedd. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn wfftio’r honiadau.

Mae disgwyl y canlyniad tua 4pm, ond mae’n bosib y byddwn yn gwybod os yw pethau’n agos neu beidio cyn hynny.

10.55pm:

Mae’n anodd meddwl am ddwy blaid mwy gwahanol na Phlaid Cymru ac UKIP, ond efallai y bydd gan y cenedlaetholwyr Cymreig le i ddeall i fyddin porffor Nigel Farage os yw’r pol piniwn ‘ar y dydd’ gan ITV i’w gredu. Yn ôl y pol piniwn hwnnw, Plaid Cymru ac UKIP fydd yr unig ddwy blaid fydd yn cynnyddu eu pleidlais (a hynny o ychydig iawn, iawn ar y rhestr rhanbarthol yn achos Plaid). O ganlyniad, tra bod y pleidiau eraill i gyd fe petaent wedi colli pleidleisiau i UKIP, mae Plaid Cymru wedi aros yn yr unfan. Gallai hynny fod yn arwyddocaol mewn sawl sedd megis Llanelli, De Penfro, Ceredigion, ayyb.

10.50pm:

Gair o Gaerdydd gan Iolo Cheung:

“Dim llawer o ymateb syn yn y stafell sbin yma yng Nghaerdydd i ganlyniad y pôl ‘ar y dydd’, roedd o’n union fel yr un gafodd ei wneud ddoe felly fawr neb wedi’u synnu – yn sicr ddim yn syfrdanol fel yr ‘exit poll’ yn etholiadau San Steffan llynedd.

Mae’n edrych fel brwydr agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr am yr ail safle, a rhaid dweud y byddai hi’n gorfod cael ei hystyried yn noson siomedig i bwy bynnag fydd yn dod yn drydydd.”

Yn y cyfamser, mae’n gohebydd ni yng Ngheredigion Owain Hughes wedi bod yn sgwrsio a Brian Dafydd, ymgeisydd y Gwyrddion.

Mae Brian Dafydd yn hyderus iawn y bydd Alice Hooker-Stroud [arweinydd y blaid] yn cael ei hethol yn rhanbarth Canolbarth a Gorllwein Cymru – ond dydi o ddim yn credu y bydd o yn ennill yma yng Ngheredigion.

10.45pm

Sedd arall i’w gwylio heno:

Aberconwy – Dyma sedd arall sydd, fel Llanelli, wedi newid dwylo ym mhob etholiad hyd yma (sedd Conwy ydoedd yn flaenorol). Fel De Penfro mae’n frwydr tair ffordd rhwng y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a Llafur. Os yw’r polau piniwn i’w credu ni fydd Llafur yn arbennig o gystadleuol yma eleni, ond mae’n uchel ar restr targedau Plaid Cymru. Os ydynt yn cipio hon, ar ben Llanelli, fe fydd yn noson gymharol dda iddynt.

Janet Finch-Saunders yw’r deiliad, Trystan Lewis yw ymgeisydd Plaid Cymru, a Mike Priestley sy’n cynrychioli y Blaid Lafur. Bydd disgwyl y cyhoeddiad tua 3am.

10.40pm

Nid yw pôl piniwn ar y diwrnod ITV yn newid rhyw lawer – mae’n debyg iawn i’r pôl piniwn ddiweddaraf ddoe. Y cwestiwn allweddol yw sut bydd y pleidleisiau hyn yn cael eu dosbarthu o ardal i ardal.

Mae yn awrymu serch hynny y bydd pleidlais UKIP yr un mor uchel a’r disgwyl. Mae’n addo noson bur anodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ogystal. Bydd Llafur yn hapus ar 27 o seddi, a Plaid yn weddol fodlon ar 12. Byddai 11 sedd ychydig yn siomedig i’r Ceidwadwyr ar ôl y cynnydd yng Nghymru y llynedd.

10.35pm

Sedd arall i’w gwylio:

Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro – Brwydr dair ffordd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru sydd yma. Ni ddylai’r canlyniad ein cyrraedd ni nes tua 6am, felly fe fydd yn rhy hwyr i roi syniad o sut y bydd y pleidiau hyn wedi gwneud ar draws Cymru.

Llafur oedd yn yr ail safle yn 2011 ond mae rhai polau piniwn diweddar wedi awgrymu y gallai Simon Thomas o Blaid Cymru garlamu drwy’r canol a’i chipio ar noson dda. Angela Burns o’r Ceidwadwyr sy’n amddiffyn y sedd, a Marc Tierney sy’n cynrychioli Llafur.

10.30pm:

Mae pôl piniwn ar y diwrnod ITV wedi cyrraedd.

Llafur 27

Plaid 12

Ceidwadwyr 11

UKIP 8

Democratiaid Rhyddfrydol 2

10.27pm

Sedd arall i’w gwylio:

Gogledd Caerdydd – Llwyddodd y Ceidwadwyr i gynyddu eu mwyafrif yma yn Etholiad San Steffan y llynedd yn wyneb ymosodiad ffyrnig o du Llafur. Os nad ydynt yn llwyddo i’w chipio eleni fe fydd yn arwydd o noson bur siomedig iddynt, ac un gwell na’r disgwyl i Lafur.

Julie Morgan, gwraig y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan, sy’n amddiffyn dros Lafur, tra bod Jayne Cowan yn sefyll dros y Ceidwadwyr. Dyma sedd arall a ddylai newid dwylo os yw’r polau piniwn yn gywir.

Mae seddi Caerdydd fel arfer yn weddol hwyr yn cyhoeddi, felly os mai dyma’r sedd yr ydych chi’n disgwyl amdano efallai y byddai yn well mynd i’r gwely a gosod y cloc larwm am tua 5am.

10.25pm

Neges gan Phil Davies yn Nyffryn Clwyd:

“Mae Dyffryn Clwyd yn llawn posteri Torïaidd, o’r A55 reit lawr y dyffryn. Mae nhw wedi’i dargedu yn gryf, ’swn i’n deud… Mae Llafur yn dibynnu ar Rhyl achos bydd Mair Rowlands wedi cadarnhau pleidlais y Blaid yn Ninbych, Henllan, ac ati. Os yw pleidlais cenedlaethol y Torïaid yn sefyll ei dir (a chawn ni weld hynny yn yr exit poll), one to look out for…

“Dwi’m wedi bod yn Nelyn a De Clwyd ond does dim arwydd o’r Torïaid yn Môn, Arfon a Dwyfor M. Mae nhw wedi pwmpio popeth yn y gogledd i mewn i Aberconwy a Clwyd West ac i ennill Dyffryn Clwyd. Sef strategaeth yr Etholiad Cyffredinol… Defend everything and take low-hanging fruit…”

10.20pm

Cwestiwn mawr y noson – pam bod Plaid Cymru bellach yn felyn ar graffigau y BBC?

Yr ateb mae’n debyg yw bod logo Plaid Cymru yn felyn ar gefndir gwyrdd, ac felly bod rhai i’w lliw yn y cyfrifiadur fod yn felyn. Dyw hynny ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi, oherwydd mae logo Llafur yn wyn ar gefndir coch, a’r Ceidwadwyr yn wyrdd ar gefndir glas.

Os oes gan unrhyw un yr ateb i’r pos hwn, rhowch wybod.

10.15pm

Sedd arall i’w gwylio heno:

Canol Caerdydd – Os yw’r Democcratiaid Rhyddfrydol am osgoi crebachu i blaid un aelod, rhaid iddynt ennill etholaethau. Y flaenoriaeth gyntaf fydd cadw Brycheiniog a Sir Faesyfed, ond ennill y sedd hon fydd targed #2 ar y rhestr.

Sedd llawn myfyrwyr yw hon ac fe fydd yn ddiddorol gweld a ydynt bellach wedi maddau i’r Dems Rhydd am eu polisi ar ffioedd myfyrwyr. Mae’r ffaith bod Llafur wedi cipio’r etholaeth oddi arnynt yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd yn awgrymu y gallai fod yn dalcen caled. Mae yna bryderon hefyd y bydd newidiadau i’r modd y cofrestrir ar gyfer etholiadau yn golygu bod llai o fyfyrwyr bellach yn gymwys i bleidleisio.

Serch hynny, os yw’r polau piniwn yn gywir, dyma un o’r ychydig seddi a ddylai newid dwylo.

10.10pm

Y bocsys pleidleisio cyntaf eisoes wedi cyrraedd Aberaeron, ble mae’n gohebydd ni Owain Hughes yn cadw llygad ar bethau yng Ngheredigion. Ydyn nhw ar ras i fod yn gyntaf tybed?

10.02pm

Yr etholaeth i’w gwylio heno:

Llanelli – dyma un o’r unig seddi y mae disgwyl iddi newid dwylo, yn ôl o Lafur i Blaid Cymru. Mae Llanelli wedi bod fel taten boeth rhwng y ddwy blaid, yn newid dwylo ym mhob un o etholiadau’r Senedd. Serch hynny mae Llafur wedi taflu sinc y gegin at y sedd hon ac, ar ôl cynyddu eu mwyafrif yma yn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd, yn croesi bysedd y bydd hynny’n ddigon i’w chadw. Os ydynt yn fuddugol fe fyddant yn ethol Lee Waters i’r Cynulliad. Helen Mary Jones yw ymgeisydd Plaid Cymru unwaith eto.

Mae disgwyl i’r sedd gyhoeddi tua 2.30am – ond os yw hi mor agos a’r tro diwethaf (dim ond 80 pleidlais oedd ynddi) fe allai fod tua awr yn hwyrach.

Os yw Llafur yn cadw Llanelli fe allai fod yn noson weddol gyfforddus iddyn nhw, ac yn argoeli’n wael i Blaid Cymru.

10pm

BONG! Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau.

9.55pm

Nid oes disgwyl y bydd UKIP yn gystadleuol yn yr etholaethau heno. Fe fydd yn werth cadw llygad ar Islwyn a Chaerffili, seddi lle y gwnaethon nhw’n dda yn yr Etholiad Cyffredinol. Ond eu gobaith fydd cipio cynifer a phosib o seddi ar y rhestri. Fe allent ddylanwadu’r fawr ar sawl etholaeth, serch hynny, yn enwedig os ydynt yn erydu cefnogaeth y Blaid Lafur fel y gwnaethpwyd y llynedd.

Y cwestiwn mawr serch hynny yw i ba raddau y bydd eu cefnogwyr yn pleidleisio. Gyda’r wobr fawr, Refferendwm Ewrop, mewn cwta fis, faint ohonynt sydd yn canolbwyntio ar yr etholiadau heddiw, a faint o amser ac adnoddau y mae UKIP wedi eu treulio a’u gwario ar eu cymell i bleidleisio?

9.45pm

Gobaith y Democratiaid Rhyddfrydol yw osgoi cyflafan o drwch blewyn heno, fel y gwnaethpwyd yn 2011. Ond mae’n ymddangos bron yn sicr eu bod am golli bron y cwbl o’u seddi rhestr i UKIP, ac felly bydd rhaid iddynt frwydro’n ôl yn yr etholaethau – Brycheiniog a Sir Faesyfed, sedd yr arweinydd Kirsty Williams, a hefyd gobeithio cipio Canol Caerdydd gan Lafur a Cheredigion gan Blaid Cymru.

Maent yn debygol o gyflawni’r cyntaf, mae’r ail yn ansicr, ond nid yw’r olaf yn debygol. Fe allai’r gwahaniaeth rhwng un a thair sedd fod yn ddylanwadol iawn dros y pedair mlynedd nesaf, yn enwedig felly os yw Llafur dwy neu dair sedd yn brif o fwyafrif.

9.35pm

Gair gan Iolo Cheung o’r Bae:

“Newydd gyrraedd y stafell sbin yma yng Nghaerdydd – mae’n weddol ddistaw ar hyn o bryd, gyda hanner awr i fynd nes i’r gorsafoedd pleidleisio gau wrth gwrs. Rydan ni’n disgwyl cynrychiolwyr o’r holl bleidiau i fod yma yn ystod y noson, ac fe fyddwn ni hefyd yn clywed gan ein gohebwyr ni yn rhai o’r etholaethau diddorol yn ystod y nos.

“Mae’r ymgyrch etholiadol wedi’n cadw ni i gyd yn brysur dros yr wythnosau diwethaf, ond doedd y gyrrwr tacsi ddaeth a fi yma heno ddim hyd yn oed i’w weld yn ymwybodol fod pleidleisio yn digwydd heddiw – doedd o ddim wedi pleidleisio beth bynnag. Mae’n amlwg nad ydi’r ras i’r Cynulliad wedi dal dychymyg pawb yng Ngorllewin Caerdydd!”

9.25pm

Beth fyddai yn noson dda i’r Ceidwadwyr? Roedd ganddynt y gwynt yn eu hwyliau ar ôl yr etholiad, ac wedi gobeithio ennill tir sylweddol. Ond yn sgil trafferthion Tata a’r rhwyg rhwng eu harweinydd yng Nghymru, Andrew RT Davies, a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron, ar fater Refferendwm Ewrop, mae eu gobeithion wedi pylu rhywfaint.

Ymgyrch weledol weddol dawel a gafwyd ganddynt. Ond rwy’n credu y gallent wneud yn well na’r disgwyl – bu’r blaid yn gelfydd iawn y llynedd wrth dargedu’r union bleidleiswyr rheini yr oedd eu hangen arnynt er mwyn cael y maen i’r wal. Ar Facebook, drwy lythyr, a galwad ffôn, y mae ennill etholiadau erbyn hyn, yn hytrach na drwy’r cyfryngau prif-lif (yn enwedig yng Nghymru, lle nad yw’r cyfryngau prif-lif yn talu llawer o sylw i’r hyn sy’n digwydd ta beth).

Llwyddiant yn fy marn i fyddai cipio Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg oddi ar y Blaid Lafur, tra’n cadw Aberconwy a Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

9.15pm

Wedi bod draw i’r orsaf bleidleisio yma yng Ngheredigion – sydd drws nesaf, yn gyfleus iawn. Mae wedi bod yn ‘reit fishi’* medden nhw, o ganlyniad i’r tywydd braf. Dyna bôl piniwn cwbl anwyddonol i chi.

*Prysur, i chi gogs sydd ddim yn rhugl yn iaith yr hwntw. Dim byd i’w wneud efo pysgota.

9pm

Rydym eisoes wedi trafod rhywfaint ar y Blaid Lafur – ond beth fyddai yn cynrychioli llwyddiant i Blaid Cymru heno? Mae Leanne Wood wedi dweud ei bod am arwain y llywodreath nesaf, ond mae’r rhan fwyaf o sylwebwyr di-duedd yn cytuno nad yw hynny’n arbennig o debygol. Rwy’n credu bod rhaid cipio Llanelli, ac hefyd Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro ac/neu Aberconwy er mwyn gallu honni â wyneb syth eu bod nhw’n ennill tir.

Methiant Plaid wrth gwrs yw eu hanallu i dorri i mewn i’r cymoedd a dinasoedd y de-ddwyrain. Pe bai Leanne Wood yn arwain ei phlaid i fuddugoliaeth yn y Rhondda neu Orllewin Caerdydd gellid datgan eu bod wedi llwyddo yn hynny o beth. Ond nid yw’r polau piniwn yn awgrymu bod y fath ogwydd yn erbyn Llafur yn debygol. Er bod Neil McEvoy wedi bod yn brysur yng Ngorllewin Caerdydd mae’n werth cofio mai’r Ceidwadwyr ddaeth yn ail yno yn 2011!

8.50pm

Bydd rhywfaint o sylw i Geredigion heno, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol geisio diorseddu Elin Jones o Blaid Cymru.

Mae’r etholiad diwethaf yn y sir bellach yn destun llyfr gan ymgeisydd Plaid Cymru, Mike Parker. Efallai bydd angen pennod newydd ar ôl cyhuddiadau o dactegau dan-dîn eto eleni.

8.40pm

Fe fydd gan ITV bôl piniwn arbennig am 10.30pm, sef arolwg o’r rheini sydd wedi pleidleisio yn unig. Efallai y bydd hyn yn difetha ein hwyl drwy ddatgelu pwy sydd wedi ennill ar ddechrau’r noson – felly os nad ydych chi’n hoffi sbwylwyr, dyna’r adeg i gwato eich llygaid. Ond na phoener, oblegid yr oedd yr un math o bôl piniwn a gynhaliwyd gan YouGov yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015 yn anghywir, felly bydd lle i barhau i ddyfalu eto!

Mae yna esboniad trylwyr o sut y bydd y pôl piniwn hwn yn gweithio ar flog Roger Scully.

8.20pm

Mae disgwyl y gall nifer y pleidleiswyr fod yn isel eleni – hyd yn oed yn is na’r 42% yn 2011, a hynny oherwydd bod Etholiad Cymru yng nghysgod Refferendwm Ewrop. Efallai y bydd y tywydd braf heddiw yn ychydig o help yn hynny o beth.

Rwy’n credu bod saith prif reswm sy’n esbonio’r diffyg diddordeb yn Etholiadau Cymru. Mae rhai o’r rhain yn bethau y gellid efallai eu datrys, eraill yn dalcen caletach:

1.)    Mae gwleidyddiaeth Bae Caerdydd yn fwy cydsyniol na San Steffan, ond yn fwy diflas o ganlyniad.

2.)    Mae’r system cynrychiolaeth gyfrannol sy’n cael ei ddefnyddio mewn etholiadau yn decach, ond mae’n golygu nad oes yna lawer o newid o’r naill etholiad i’r llall.

3.)    Mae poblogaeth Cymru yn gymharol dlawd o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, ac felly does dim llawer o gymhelliad i’r cyfryngau masnachol dalu sylw iddynt

4.)    Mae newyddiadurwyr yn tueddu i lynu at sefydliadau sydd â’r amser a’r adnoddau i ddarparu ffrwd gyson o newyddion ar eu cyfer – nid oes llawer ohonynt i’w cael yng Nghymru

5.)    Mae papurau Llundain, â’r cynulleidfaoedd cefnog a’u perchnogion dylanwadol, yn parhau i allu ariannu’r math o newyddiaduraeth ymchwiliadol sy’n gosod yr agenda newyddion ar gyfer y cyfryngau darlledu Prydeinig

6.)    Oherwydd ei phroffil isel, ni ystyrir Cymru mor wleidyddol bwysig yn San Steffan ac felly mae’r enwau mawr yn annhebygol o ymyrryd yn yr etholiad.

7.)    Mae natur fynyddig Cymru, a rhwydwaith trafnidiaeth echdynnol, yn golygu nad yw wedi elwa ar y math o wasanaethau newyddion cenedlaethol a allai fod wedi hybu ymdeimlad o fod yn genedl ar wahân i weddill y Deyrnas Unedig. O ganlyniad, mae diffyg diddordeb gan ddeheudir y wlad yn y gogledd a vice-versa, gan olygu bod llawer o weithgaredd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn amherthnasol i’r naill neu’r llall.

Mae’r rhesymau hyn oll, yn anffodus, yn atgyfnerthu ei gilydd i raddau helaeth, ac yn golygu mai drwy wasanaethau cyhoeddus megis y BBC, S4C, Golwg 360 ayyb y ceir ymdriniaeth a gwleidyddiaeth Cymru’n bennaf. (Pob clod i ITV am ehangu eu hymdriniaeth nhw yn sylweddol eleni yn ogystal.)

8.10pm

A fydd arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, yn gwneud ‘Nick Bourne’ heno? Hynny yw, yn colli ei sedd ar y rhestr yn y Cynulliad o ganlyniad i lwyddiant ei blaid wrth gipio etholaethau eraill – yn yr achos hwn, Bro Morgannwg neu Ogledd Caerdydd?

8pm:

Os yw Llafur yn llwyddo i gadw tua 27-28 sedd heno, stori fawr y noson fydd yr ymrafael rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru dros bwy fydd â’r grym i orfodi consesiynau ohonynt dros y blynyddoedd nesaf. Mae Llafur eisoes wedi datgan na fyddant yn cydweithio â’r Ceidwadwyr na chwaith UKIP.

Os yw y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli eu haelodau ar y rhestr i fyddin porffor Nigel Farage, ac yn methu a chipio Canol Caerdydd a Cheredigion, ni fyddant yn gallu cynnig dim i Lafur, ac fe fydd y chwip yn llaw Plaid Cymru – hyd yn oed os nad ydynt yn mynd i glymblaid ffurfiol.

Os yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn well na’r disgwyl, yna bydd Llafur yn gallu dewis a dethol pwy sy’n gwneud y cynnig gorau – ac fe allai Plaid ei chael hi ei hun yn ‘cheap date’ unwaith eto.

Mae ambell i un hynod ddrygionus hefyd wedi awgrymu clymblaid Llafur + Democratiaid Rhyddfrydol + Dafydd Elis-Thomas. Yr Arglwydd a yn unig a wyr a yw hynny’n bosibilrwydd!

7.55pm

Mae un o ymgyrchwyr Plaid Cymru yn y Rhondda wedi cysylltu er mwyn dweud eu bod nhw’n ffyddiog y bydd y canlyniad yn agos iawn. Rhaid cymryd hyder o’r fath â phinsied o halen tra bod y blychau pleidleisio ar agor, wrth gwrs. Unwaith y byddant yn cau am 10pm fe fydd y pleidiau yn dechrau rheoli disgwyliadau a chawn syniad llawer gwell a ydyn nhw’n teimlo eu bod wedi llwyddo ai peidio.

Sôn am reoli disgwyliadau, dyma flog hynod ddiddorol gan un o gyn-feistri sbin y Blaid Lafur ynglŷn â sut orau i wneud hynny.

7.30pm

Y cwestiwn mawr heno yw i ba raddau y bydd Llafur yn llwyddo i ddal eu gafael ar yr 30 o seddi sydd ganddynt ar hyn o bryd.

Mae Llafur wedi colli tua chwarter eu cefnogaeth er 2011 yn ôl y polau piniwn, ond serch hynny mae’r rhagamcaniadau yn awgrymu na fyddant yn colli mwy na dwy neu dair o’u seddi. Mae’r blaid wedi cyfaddef yn breifat y bydden nhw’n fodlon ar ddal gafael ar 28 o’u seddi yn dilyn yr etholiad.

Serch hynny rwy’n credu y gallai’r canlyniad fod ychydig yn fwy diddorol na hynny, am bedwar rheswm:

1.)    Fel y gwelwyd y llynedd, mae polau piniwn yn gallu bod yn gamarweiniol, ac er bod YouGov wedi addasu eu methodoleg ers hynny mae tueddiad ganddynt i or-bwysleisio cefnogaeth y Blaid Lafur. Er enghraifft, roeddynt yn darogan y byddai Llafur yn derbyn 47% o’r bleidlais yn Etholiad Cymru 2011 ond 42.3% a dderbynwyd.

Maent yn darogan 33% y tro hyn, a pe bai yna fwlch tebyg eto fe allai’r blaid golli pump neu chwech o seddi yn hytrach na dwy neu dair.

2.)    A fydd y ffrae parhaol wrth galon y Blaid Lafur yn San Steffan wedi dadrithio rhai o’u cefnogwyr craidd? Ymddengys bod gan garfanau ar ddwy ochor y blaid asgwrn i’w grafu ar hyn o bryd. Nid ydynt o reidrwydd yn mynd i bleidleisio dros blaid arall, ond fe allent lyncu mul a pheidio a threfferthu pleidleisio o gwbl.

3.)    Nid yw’r polau piniwn chwaith yn rhoi ryw lawer o syniad i ni le y mae cefnogaeth y pleidiau. E.e. fe allai’r Blaid Lafur bentyrru pleidleisiau yn y Cymoedd, ond colli tir sylweddol yn y gogledd neu Gaerdydd, fel y gwelwyd yn yr etholiad y llynedd.

4.)    Mae UKIP yn cyflwyno elfen arall o ansicrwydd. Mae cefnogaeth y Ceidwadwyr a Plaid Cymru wedi aros yn weddol wastad yn y polau piniwn, gan awgrymu bod talp go sylweddol o gefnogaeth UKIP yn dod o gyn-gefnogwyr y Blaid Lafur. Nid oes darogan y bydd UKIP yn ennill seddi yn yr etholaethau, ond fe allent hollti pleidlais Llafur i’r fath raddau fel bod modd i wrthblaid ennill heb weld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais eu hunain.

Er mai’r canlyniad tebygol yw tua 27-28 sedd i Lafur, mae digon o ansicrwydd fel y gallai’r canlyniad fod ychydig yn fwy diddorol na’r hyn sy’n cael ei awgrymu ar hyn o bryd.

Rhagymadrodd

Croeso i flog byw noson etholiad Golwg 360! Fe fydd y blog yn diweddaru’n gyson o tua 7.30pm ymlaen, ac yna drwy gydol y bore nes bod y canlyniadau olaf yn ein cyrraedd ni tua 6am (gobeithio!).

Os oes gennych chi rywbeth i’w ddweud, gadewch sylw isod, @iwch ni ar Twitter, neu gyrrwch neges at ifanjones@gmail.com.

Am 10pm heno fe fydd y blychau pleidleisio yn cau, a’r cyfrif yn dechrau i weld pwy sydd wedi mynd â hi.

Fe fydd yr holl ganlyniadau a’r ymateb gennym ni yma ar Golwg 360 – ond yn bwysicach byth, fe fyddwn yn dadansoddi’r canlyniadau a’r ymatebion rheini yn drylwyr hefyd.

Pa seddi yw’r rhai hanfodol? Pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu? A beth fydd effaith tebygol y canlyniadau ar ddyfodol y pleidiau, eu harweinwyr, a gwleidyddiaeth yng Nghymru rhwng nawr a 2021?

Fe fyddaf i, Ifan Morgan Jones, yn eich diweddaru chi ar ddigwyddiadau’r noson, a Iolo Cheung yn dod a’r sïon diweddaraf o’r ‘stafell sbin’ ym Mae Caerdydd.

Yn ogystal â hynny fe fydd Dylan Iorwerth gyda ni yn cynnig ei ddadansoddiad craff yntau o’r canlyniadau fydd yn llifo mewn, a’i farn ef ar ba gyfeiriad y mae’r gwynt yn chwythu.

Mae gennym yn ogystal rwydwaith o newyddiadurwyr yn y cyfrifon ledled Cymru a fydd yn rhoi syniad go dda i ni o bwy sy’n hyderus unwaith mae’r blychau pleidleisio yn cau am 10pm.

Unwaith y mae’r canlyniadau’n ein cyrraedd ni, fe ddown ni ag ymateb yr ymgeiswyr buddugol ac aflwyddiannus yn ogystal â sylwadau’r gwleidyddion a’r pleidiau yng Nghaerdydd.

Felly gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am noson o ddagrau, llawenydd, siom a siampên!