Cian Ciarán
Mae aelod o’r Super Furry Furry Animals wedi gadael ei wreiddiau pop seicadelic a throi at gerddoriaeth glasurol yn ei brosiect diweddaraf.

Bydd Cian Ciarán yn rhan o bartneriaeth annisgwyl gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC mewn cynhyrchiad arbennig o’r hen chwedl gwerin, Rhys a Meinir.

Mae’r gwaith cyfansoddi wedi’i wneud gan Cian Ciarán, gyda’r gerddorfa yn perfformio a bydd gwaith barddonol Gruffudd Antur yn cael ei ddarllen gan lefarwyr yn ystod y perfformiad hefyd.

84 o gerddorion fydd yn perfformio gwaith clasurol cyntaf y seren roc yn y premiere byd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.

Er ei bod yn “stori enbyd o drist, yn drasiedi dwbl”, meddai, mae Cian Ciarán yn gweld y chwedl yn “rhan o’n hiaith a’n hunaniaeth ni, sydd yn ei dro yn dal i gyfrannu i’r cyfoeth o amrywiaeth sydd yn y byd o’n cwmpas.”

Naratif yn Gymraeg yn unig

Wrth siarad am yr elfen lafar yn y gwaith, a fydd yn y Gymraeg yn unig, dywedodd y byddai’r naratif yn cyfeirio’r gynulleidfa sy’n siarad Cymraeg at bwyntiau penodol yn y stori, “ond bydd y gerddoriaeth yn creu a chyfleu’r naws ac awyrgylch i bawb”.

“Dw i wedi trio creu profiad sonig sydd hefyd, gobeithio, yn brofiad hudolus o emosiynol a fydd yn ysgogi’r gynulleidfa i ymgolli yn holl ddrama’r stori serch yma a dychmygu holl ogoniant ei lleoliad,” meddai.

Hanes trist Rhys a Meinir

Mae’r stori yn cwmpasu hanes trist Rhys a Meinir yn Nant Gwrtheyrn, lle ar fore eu priodes, does dim golwg o Meinir yn unman.

Mae’r dyddiau’n troi’n wythnosau, ac yna’n fisoedd o chwilio a gofid ac anobaith sy’n gyrru Rhys yn orffwyll.

Un noson stormus, â Rhys yn cysgodi dan dderwen, mae mellten yn hollti’r goeden gan ddatgelu sgerbwd mewn ffrog briodas. Yn y fan a’r lle, mae calon Rhys yn torri ac mae’n syrthio’n farw wrth droed ei briodferch.

Bydd darllediad byw o’r perfformiad ar BBC Radio Cymru, ac mae disgwyl cyhoeddi’r fersiwn sain yn 2017.

Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal nos Wener, 4 Tachwedd am 8 o’r gloch yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Gallwch brynu tocynnau am £23 drwy ffonio 0800 052 1812 Llinell Gynulleidfa Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.