Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi pwy fydd yn cael eu hurddo i’r Orsedd yn y Brifwyl yn Sir Fynwy a’r Cyffiniau eleni.

Caiff pobol eu dewis i’r Orsedd bob blwyddyn, er mwyn “rhoi clod i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru”.

Bydd y 31 unigolyn sy’n cael eu hanrhydeddu eleni, yn cael eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ger y Fenni, fore dydd Gwener, 5 Awst.

Ar gyfer y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduriaeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro /cenedl, mae’r Wisg Las.

Bydd y rhai sy’n cael Gwisg Werdd yn cael eu hurddo am eu cyfraniad i’r Celfyddydau. Mae modd i bobol sydd â gradd ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf gael Gwisg Werdd hefyd.

 

Rhai sy’n cael eu hanrhydeddu

Ymhlith y sawl fydd yn cael eu hurddo yn y Wisg Las, mae cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Jones, o’r Bala a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

Bydd Gwenda Thomas, cyn-Aelod Cynulliad y Blaid Llafur dros Gastell-nedd, hefyd yn cael ei hanrhydeddu mewn glas.

Mae Gwyn Elfyn, yr actor sy’n adnabyddus am chwarae rhan Denzil ym Mhobol y Cwm, hefyd yn cael ei anrhydeddu, a bydd yn gwisgo gwyrdd am ei gyfraniad i’r celfyddydau yng Nghymru.

Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, Siân Lewis, sydd hefyd ymhlith y rhai fydd yn cael gwisgo gwyrdd yn yr Orsedd eleni.

Bydd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd yn gwisgo gwyrdd hefyd.

Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael gwisgo’r Wisg Wen.

Dyma restr lawn o’r rhai sy’n cael eu hurddo eleni

 

Gwisg Las

 

Roger Boore, Caerdydd – Sylfaenydd Gwasg y Dref Wen

Rhiannon Davies, Y Fenni – Swyddog Iaith Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Robin Harries Aled Davies, Coleford, Swydd Gaerloyw – Arweinydd y gwaith o godi arian yn lleol ar gyfer yr Eisteddfod eleni a sylfaenydd Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a’r Cylch

H Ellis Griffiths, Dinas Powys – Pennaeth Ysgol Gyfun Gwynllyw

Brian Jones, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin – Pennaeth Cwmni Bwydydd Castell Howell

Emyr Wyn Jones, Y Bala – cyn-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru 2011-15

Richard Jones, Wrecsam – Pencampwr plant ac ieuenctid sydd ag anghenion addysgol, yn benodol ym maes Syndrom Down

Elin Maher, Casnewydd – sylfaenydd Menter Casnewydd

Aled Wyn Phillips, Caerdydd – un fy llywio bywyd cymdeithasol Cymraeg Caerdydd ers y 1980au

Ken Rees, Hendygwyn-ar-Daf – am ei gyfraniad dros Gymdeithas Genedlaethol Hywel Dda a Chanolfan Hywel Dda

Philip Brian Richards, Aberpennar – Barnwr

Elizabeth Saville Roberts, Morfa Nefyn – Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd

Sue Roberts, Pwllheli – cydlynydd Cylch Catholig Cymru, gan weithio i ddod â’r Gymraeg yn rhan o’r Eglwys

Ceri Thomas, Y Fenni – Cadeirydd Eisteddfod Y Fenni

Gwenda Thomas, Castell-nedd – cyn Aelod Cynulliad Castell-nedd

John Gordon Williams, Lerpwl – cyn llywydd y Gymdeithas Feddygol Gymraeg ac aelod blaenllaw o gymuned Gymraeg Lerpwl

Gwyneth Williams, Pontsenni – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc

Dafydd Wyn, Glanaman – un o sylfaenwyr papur bro Glo Mân a bardd nifer o gadeiriau mewn eisteddfodau lleol

 

Gwisg Werdd

 

Carole Collins, Prion, Dinbych  – un sy’n gweithio dros y Gymraeg yn ei bro ac a lwyddodd i sicrhau lle i’r Gymraeg, eisteddfodau ysgol a’r Urdd yn rhai o ysgolion Seisnig yr ardal.

Martha Davies, Lincoln, Nebraska – a ddysgodd Cymraeg ar ôl symud i Aberystwyth am bedair blynedd, sydd hefyd yn rhedeg Prosiect Canolfan Gymreig y Gwastadedd Mawr yn Nebraska.

Jennifer Eynon, Wrecsam – Hyfforddwraig llefaru i blant a phobol ifanc

Gruffydd John Harries, Mwmbwls, Abertawe – Cerddor, sydd wedi gweithio gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar nifer o gyngherddau

Anne Hughes, Tongwynlais – arbenigwraig y ddawns werin Gymreig ac un o sefydlwyr dawnswyr Gwerinwyr Gwent

Ken Hughes, Cricieth – pennaeth cynradd a fu’n gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo sioe gynradd yr Urdd yn 1990

Gwyn Elfyn Lloyd Jones, Pontyberem, Llanelli – actor a Chadeirydd Menter Iaith Cwm Gwendraeth Elli

Megan Jones, Penparcau, Aberystwyth – cadeirydd pwyllgor y papur bro lleol, Yr Angor, ac un sydd wedi codi miloedd i elusennau drwy fudiadau dyngarol yng Ngheredigion

Siân Lewis, Caerdydd – Prif Weithredwr Menter Iaith Caerdydd, a fu’n gyfrifol dros ddechrau gŵyl Tafwyl yn y ddinas a datblygiad Yr Hen Lyfrgell diweddar

Wyn Lodwick, Pwll, Llanelli – cerddor jazz, sydd wedi hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant drwy gyfrwng jazz ac yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt

Ruth Lloyd Owen, Llanddoged, Llanrwst – athrawes a chyfansoddwraig sydd wedi cyfrannu dros yr iaith a diwylliant ei hardal

Dafydd Meirion Roberts, Caernarfon – Prif Weithredwr cwmni recordio Sain, ac aelod o Ar Log

Godfrey Wyn Williams, Trefor, Llangollen – cyn-berchennog yr orsaf radio, Marcher Sound

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar Ddolydd y Castell, Y Fenni elen, rhwng 29 Gorffennaf a 6 Awst.