Beth bynnag fydd y canlyniad, fe fydd yr etholiad yn teimlo fel diwedd cyfnod o ryw fath i'r Blaid Lafur (llun: Flickr/Cynulliad Cymru)
Yn y pedwerydd mewn cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pleidiau yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad, Iolo Cheung fu’n holi Carwyn Jones o’r Blaid Lafur
Ar ôl dros bymtheg mlynedd ddi-dor o fod wrth y llyw ym Mae Caerdydd, mae’r polau diweddar wedi awgrymu y gallai’r Blaid Lafur gael ei chanlyniad gwaethaf erioed yn etholiadau’r Cynulliad.
Ond mae canlyniad fyddai’n gymharol wael i Lafur – 25 allan o 60 sedd, dyweder – yn un fyddai rhai o’r pleidiau eraill ond yn gallu breuddwydio amdano.
Wedi’r cwbl, Llafur sydd wedi teyrnasu yng Nghymru ers cyn cof, a nhw sydd wedi arwain y genedl yn y Senedd drwy’r holl flynyddoedd hynny ers i ddatganoli ddod i Gaerdydd.
Pam felly fod Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn enwedig yn teimlo felly mai eleni fydd eu cyfle gorau ers hydoedd i dorri gafael y blaid sydd wedi bod yn llywodraethu ers 1997?
Mae perfformiad y llywodraeth Lafur presennol wedi bod dan y lach yn gyson dros y pum mlynedd ddiwethaf, yn enwedig ym maes iechyd, ond hefyd mewn nifer o feysydd eraill gan gynnwys addysg, yr economi, a’r iaith Gymraeg.
Ond dyw dadl y gwrthbleidiau fod cael un blaid yn llywodraethu am 17 mlynedd a’i bod hi’n bryd felly i rywun arall roi cynnig arni ddim yn dal dŵr, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
“Dy’ch chi ddim yn ennill etholiad achos mai’ch tro chi yw e – ddim felly mae e wedi gweithio gyda gemau Cymru a Seland Newydd dros y blynyddoedd!” meddai’r arweinydd Llafur wrth golwg360.
“Mae’n rhaid i chi ennill etholiad, ac mae’n rhaid i chi ddweud wrth bobol Cymru bod gyda chi’r egni a’r syniadau er mwyn gwneud bywyd yn well i bobol.”
‘Nid dim ond ni’
Digon teg, byddai llawer yn dweud. Beth sydd gan y blaid i’w gynnig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, felly – a pham mai nhw, er gwaethaf y ffaith mai nhw sydd mewn llywodraeth, oedd yr olaf i gyhoeddi’u maniffesto a hynny llai na thair wythnos cyn y bleidlais?
“Mae’n bwysig ei wneud e’n iawn, y peth diwethaf allwn ni ei wneud yw gwneud addewidion ni’n gwybod ni’n ffaelu cadw, addewidion ni methu talu amdano,” mynnodd Carwyn Jones.
“Felly ni ‘di mynd drwy broses o sicrhau bod y maniffesto ei hun yn un cadarn, er mwyn bod ni’n gwybod yr addewidion r’yn ni’n gwneud yn gallu cael eu cadw.”
Nid gwneud addewidion yn unig y mae’n rhaid i Lafur wneud fodd bynnag, ac maen nhw’n gwybod hynny – mae record ganddyn nhw i’w amddiffyn hefyd ar ôl cyfnod mor hir o lywodraethu.
Dyw Carwyn Jones ddim yn bwriadu ymddiheuro am record ei blaid – mae digon o resymau i fod yn bositif, meddai ef, ac er nad yw pethau’n berffaith dydyn nhw’n sicr ddim mor wael ag y mae eu gwrthwynebwyr gwleidyddol yn ei awgrymu.
“Nid dim ond ni sydd wedi bod yn y llywodraeth wrth gwrs,” meddai Carwyn Jones, wrth gyfeirio mwy nag unwaith yn ein cyfweliad at y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru o 2007 i 2011.
“Ond beth sydd ‘di mynd yn dda yn yr economi? Ni’n llawer mwy llwyddiannus nawr yn tynnu buddsoddiad i mewn i Gymru nag o’r blaen.
“Mae GVA [mesuriad o gryfder yr economi] wedi tyfu, ond o’i gymharu â rhannau eraill [o Brydain] dyw’r bwlch ddim wedi cau, dw i’n derbyn hynny.
“Y ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod sgiliau gyda phobol … er mwyn bod cwmnïau’n dod mewn i Gymru o achos y sgiliau sydd gyda ni.”
Record sâl?
Un maes does dim modd i Lafur osgoi cyfrifoldeb drosti yw iechyd, a dyw’r darlun ddim wedi bod yn un cyfforddus iawn i’r blaid dros y pum mlynedd diwethaf.
O gynnydd yn y niferoedd ar restrau aros, a byrddau iechyd dan fesurau arbennig, i dargedau’n cael eu methu ar gleifion adrannau brys ac amseroedd ymateb ambiwlans, mae’r feirniadaeth o’r llywodraeth wedi bod yn groch o sawl cyfeiriad.
Eto, mae Carwyn Jones yn benderfynol fod ei lywodraeth wedi ymateb i’r heriau hynny, er ei fod yn ddigon doeth i beidio ag esgus nad yw’r problemau hynny wedi bodoli.
“Mae ‘na heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Bydden i’n dweud bod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio i’r rhan fwyaf o bobol y rhan fwyaf o’r amser,” meddai’r Prif Weinidog.
“Lle dyw e ddim wedi gweithio’n dda, a ni ‘di gweld enghreifftiau o hwnna, sef y problemau ni ‘di gweld yn Betsi Cadwaladr … [a] rhai ysbytai yng Nghymru, ni ‘di gweithredu.”
“Ynglŷn â’r arian, mae pobol wedi gweld canolfannau iechyd yn cael eu codi ar draws Cymru, sy’n hollbwysig i gymunedau, ni ‘di buddsoddi mewn ysbytai ar draws Cymru, a hefyd ni ‘di sicrhau bod ni’n gwario 1% mwy y pen nag yn Lloegr.
“Nid cystadleuaeth yw hi, fi’n deall hynny, ond dyna fel mae pobol yn ein cymharu ni. Mae’n rhaid cofio’n bod ni wedi gwneud hynny er toriad o 10% yn ein cyllideb ni.”
Mae’n gwrthod derbyn fodd bynnag fod arian o fewn cyllideb bresennol y gwasanaeth iechyd sy’n cael ei wastraffu, fel y mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr wedi dweud y byddai modd ei arbed.
“Modd arall yw hwnna i ddweud ‘toriadau’,” mynnodd Carwyn Jones.
“Ni gyd moyn gweld yr arian yn cael ei hala yn y ffordd fwyaf effeithiol, dw i’n deall hynny. Ond dw i ddim yn derbyn bod £300m y flwyddyn, neu £1bn, yn cael ei wastraffu bob blwyddyn yn y Gwasanaeth Iechyd o gwbl.”
‘Nid y Cyfrifiad yw popeth’
Mae’r argyfwng dur yn bwnc sydd hefyd yn codi, gyda Carwyn Jones yn mynnu fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi pecyn ariannol o £60m ar y bwrdd ac mai gyda llywodraeth San Steffan y mae’r dylanwad mwyaf ar ddyfodol y gweithfeydd.
O droi at drafnidiaeth, mae’n mynnu “na fyddai’n derbyn” gwario holl bwerau benthyg newydd y Cynulliad o £1bn ar wella’r M4 ger Casnewydd, a bod trydaneiddio rheilffordd y gogledd a datblygu systemau metro’n flaenoriaethau.
Ar addysg, canlyniadau profion rhyngwladol Pisa “yw’r un peth sydd ar ôl i ni ddelio gyda” yn ôl y Prif Weinidog, gan ddweud bod canlyniadau TGAU a Lefel A i’w canmol ar y cyfan a bod y rhaglen o adeiladu ysgolion newydd yn llwyddiant.
Ond dyw’r blaid ddim wedi cyhoeddi polisi ar y grant ffioedd dysgu eto, yr unig un sydd heb wneud eto, gan ddweud y byddan nhw’n aros nes i adolygiad gael ei chyhoeddi yn yr hydref.
“Beth allai ddweud yw hyn – bydd y pecyn sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru wastad yn well nag yn Lloegr,” oedd yr unig beth mae Carwyn Jones yn fodlon addo ar hyn o bryd.
Does dim “datrysiad dros nos” chwaith meddai i’r argyfwng TB sy’n wynebu ffermwyr.
“Fi’n un sydd wedi gorfod cymryd penderfyniadau anodd yn y gorffennol ynglŷn â chlwy’ traed a’r genau,” meddai, gan gyfeirio at ei gyfnod fel y Gweinidog Amaeth.
“Taswn i’n meddwl fod e’n rhwyd i gael gwared â TB wrth ddifa moch daear mae hwnna’n rhywbeth fydden i’n ei ystyried, ond nid felly mae hi.”
Ar fater y Gymraeg mae gan y Prif Weinidog record bersonol i’w hamddiffyn hefyd, fe deilydd y portffolio iaith yn ystod y tymor Cynulliad diwethaf.
“Ydi, mae rhai penderfyniadau anodd wedi cael eu gwneud,” cyfaddefodd Carwyn Jones, wrth gyfeirio at gynllun Twf gafodd ei gwtogi eleni.
“Ond ni ‘di sicrhau’n bod ni’n ariannu’r Mentrau Iaith a’r gwaith maen nhw’n ei wneud, arian cyfalaf ynglŷn â’r canolfannau iaith newydd … ac wrth gwrs, arian i sicrhau addysg Gymraeg.”
Fyddai’r arweinydd Llafur yn ei hystyried hi’n fethiant felly pe bai e’n Brif Weinidog am bum mlynedd arall a bod Cyfrifiad 2021 yn methu â dangos cynnydd yn nifer y siaradwyr?
“Mae’r Cyfrifiad yn rhoi syniad i ni o sut mae pethau’n mynd, ond dw i ddim yn credu’i fod e’n rhoi’r darlun yn gyfan gwbl,” meddai.
Diwedd cyfnod
Er ei fod wedi bod yn Brif Weinidog ers saith mlynedd bellach, does gan Carwyn Jones ddim bwriad camu o’r neilltu eto na chyhoeddi mai hon fydd ei etholiad olaf.
“Fi’n ifancach na David Cameron!” mae’n ein hatgoffa ni.
“I fi, y peth cyntaf yw ennill yr etholiad ar 5 Mai. Fi’n credu bod y cyhoedd wastad yn meddwl, os ma’ fe’n dweud fod e’n mynd i fynd yn y flwyddyn hon ar y dyddiad hwn, maen nhw’n dweud ‘pwy wyt ti gwboi i ddweud wrthym ni pryd yn gymwys ti’n mynd i fynd?’”
Efallai nad yw Aelod Cynulliad Pen-y-bont yn bwriadu gadael y Senedd yn fuan, ond mae e eisoes wedi ffarwelio â sawl un o’i gydweithwyr, gan gynnwys gweinidogion Cabinet fel Edwina Hart a Huw Lewis sydd yn ymddeol eleni.
Oes pryder y bydd colled ar ôl y pennau profiadol hynny, er gwaethaf y gwaed ffres mae’r blaid yn gobeithio’i weld yn eu dilyn nhw?
“Fi’n hapus iawn â’r bobol sy’n dod mewn, maen nhw’n dalentog dros ben ac felly dw i’n gwybod fod y dyfodol yn mynd i fod yn un cryf gyda’r Blaid Lafur,” meddai’r arweinydd yn benderfynol.
Waeth beth fydd canlyniad y bleidlais ei hun ar 5 Mai, does dim dwywaith y bydd yr etholiad eleni yn teimlo fel diwedd cyfnod i Lafur Cymru yn sgil yr ymadawiadau.
Dim ond gobeithio y bydd Carwyn Jones na fydd yr aelodau cabinet sydd yn dod i mewn yn eu lle yn gwisgo lifrai un o’r pleidiau eraill sydd yn y ras.
Gallwch ddarllen y cyfweliadau blaenorol yn y gyfres gyda Leanne Wood o Blaid Cymru, Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol drwy ddilyn y dolenni.