Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan y Cyngor ddydd Iau
Mae cyfarfod arbennig o Gyngor Sir Penfro heddiw wedi penderfynu ar safle ar gyfer ysgol Gymraeg newydd 3-16 oed yn Hwlffordd.
Roedd yr awdurdod lleol eisoes wedi cyhoeddi mai safle ar Ffordd Llwynhelyg yn Hwlffordd roedden nhw’n ei ffafrio ar gyfer yr ysgol, ond roedd angen sêl bendith pwyllgor llawn y Cyngor Sir.
Bydd y cynlluniau yn golygu cau Ysgol Gymraeg Glan Cleddau, gyda’r disgyblion yn mynychu’r ysgol newydd, ac addysg Gymraeg ôl-16 yn cael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli, Crymych.
Ac mae’r penderfyniad wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr iaith, sydd yn awyddus i weld darpariaeth addysg Gymraeg yn y sir yn cael ei hymestyn hyd yn oed yn bellach.
‘Ehangu’r ddarpariaeth’
“Gan fod safle wedi ei benodi ar gyfer ysgol Gymraeg 3-16 yn Hwlffordd mae’r cynllun gam yn nes ac mae angen mynd i’r afael â darpariaeth mewn mannau eraill yn y sir,” meddai Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith.
“Mae’r adroddiad oedd gerbron cynghorwyr heddiw yn cydnabod bod sawl ardal wedi eu hychwanegu yn nalgylch yr ysgol newydd arfaethedig gan fod angen strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
“Beth sydd angen yw symud pob ysgol yn y sir ar hyd y continwwm ieithyddol yn raddol, gyda golwg bod pob ysgol yn ysgol Gymraeg mewn blynyddoedd. Fel hynny fyddai neb yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg.”
Bydd nodyn statudol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer safle’r ysgol Gymraeg wythnos nesaf a bydd gan y cyhoedd gyfle i wrthwynebu.