Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi galw ar y llywodraeth i ymyrryd er mwyn sicrhau fod y diwydiant llaeth yn ffynnu.
Roedd Liz Saville-Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar ddyfodol y sector yn San Steffan ddydd Mercher.
Cafodd y ddadl ei sicrhau gan AS Ceredigion Mark Williams, a rybuddiodd bod miloedd o ffermwyr yn debyg o adael y diwydiant os na fydd prisiau’n gwella.
Un o’r prif bryderon yw bod archfarchnadoedd yn defnyddio prisiau llaeth isel wrth gystadlu â’i gilydd i ddenu cwsmeriaid, a hynny’n effeithio wedyn ar y pris sy’n cael ei dalu i ffermwyr.
Angen cymorth
Mynnodd Liz Saville-Roberts fod y gadwyn gyflenwi llaeth fel y mae’n sefyll yn sylfaenol anghywir, a bod angen diwygio.
“Fydd hyn ddim yn cael ei gywiro heb ymyrraeth,” meddai AS Plaid Cymru.
“Ni allwn barhau i anwybyddu’r ffaith yma a dibynnu ar y farchnad i gywiro ei hun. Mae’r adolygiad sydd ar y gweill o’r Cod Ymarfer Nwyddau Groser yn gyfle i gywiro’r sefyllfa anghynaladwy yma.
“Mae llawer o resymau dros y gostyngiad diweddaraf mewn prisiau llaeth. Mae cyflenwi byd-eang dal yn fwy na’r galw, ac ni all y goblygiadau i’n diwydiant cartref gael ei anwybyddu os yw’r llywodraeth hon o ddifrif am gefnogi economi wledig.”
‘Hanner am roi’r gorau iddi’
Cafwyd galwad gan un arall o ASau Plaid Cymru, Jonathan Edwards, ar i Lywodraeth Prydain roi ‘dannedd’ i’r Dyfarnwr Cod Archfarchnadoedd (Grocery Code Adjudicator).
Ychwanegodd Nic Smith, AS Blaenau Gwent a llefarydd Llafur ar Amaeth yn San Steffan, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ymyrryd yn hytrach na chael trefn wirfoddol.
Ac fe fynnodd Mark Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol fod rhai ffermwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn.
“Mae’n gyfnod o ansicrwydd enbyd i nifer o ffermwyr fy etholaeth i, yng Nghymru a thrwy Brydain gyfan,” meddai.
“Mae’n gyfnod anodd a fesul diwrnod mae ffermwyr yn straffaglu i roi dau ben llinyn ynghyd, sydd wedi arwain at y ffaith ddirdynnol bod bron i hanner y ffermwyr llaeth ym Mhrydain wedi dweud eu bod yn bwriadu rhoi’r gorau iddi.”