Roedd Konami eisoes wedi cyhoeddi mai Gareth Bale fyddai ar glawr eu fersiwn arbennig o PES ar gyfer Ewro 2016 (llun: UEFA)
Mae clawr Cymraeg wedi’i greu am y tro cyntaf ar gyfer gêm gyfrifiadurol adnabyddus i gyd-fynd ag Ewro 2016 yn Ffrainc eleni.

Dyma’r tro cyntaf i gwmni Konami greu clawr Cymraeg ar gêm, a hynny i gyd-fynd â llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol.

Gêm Pro Evolution Soccer sydd wedi’i thrwyddedu yn swyddogol ar gyfer y bencampwriaeth, a seren tîm Cymru Gareth Bale sydd yn ymddangos ar y clawr.

Mae tîm Cymru, ynghyd â’r citiau swyddogol, wedi cael eu hail-greu’n fanwl yn y gêm.

Llwyddiant

“Gareth Bale yw un o’r chwaraewyr mwyaf gwerthfawr ac enwog ym myd pêl-droed, ac roedden ni’n awyddus i dynnu sylw at lwyddiant Cymru yn cyrraedd y bencampwriaeth mewn ffordd arbennig,” meddai Erik Bladinieres, Cyfarwyddwr Brand Ewropeaidd Pêl-droed gyda Konami Digital Entertainment B.V.

“Bydd Gareth yn siŵr o chwarae rhan allweddol i Gymru yn y bencampwriaeth, ac rydyn ni’n gwybod y bydd pawb yng Nghymru yn cefnogi’r tîm i’r carn.

“Rydyn ni’n falch iawn o gael Gareth yn rhan bwysig o’n cynnwys ar gyfer UEFA EURO 2016 ac yn gobeithio bydd cefnogwyr Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y clawr arbennig hwn.”