Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi gwrthod apêl clybiau pêl-droed Port Talbot a Chaernarfon am drwydded ddomestig ar gyfer 2016/17.
Mae’n golygu nad oes gan yr un o’r ddau glwb hawl i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf, gan ei bod hi’n ofynnol cael y drwydded.
Fe fydd Port Talbot, sydd yn ddegfed yn y tabl ar hyn o bryd, yn gorfod disgyn allan o’r gynghrair ar ddiwedd y tymor felly, ac fe fydd achubiaeth i’r Rhyl neu Hwlffordd, y ddau dîm sydd ar y gwaelod ar hyn o bryd.
Mae’r dyfarniad hefyd yn golygu na fydd Caernarfon, sydd ar frig cynghrair yr Huws Gray Alliance ar hyn o bryd, yn cael eu dyrchafu i’r uwch gynghrair.
Dau o bob adran
Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi penderfynu rhoi trwydded i dîm Met Caerdydd, sydd yn brwydro am ddyrchafiad o Gynghrair Pêl-droed Cymru y de, ar ôl iddyn nhw apelio.
Mae pob tîm arall o Uwch Gynghrair Cymru oni bai am Port Talbot wedi ennill y drwydded ddomestig, ac mae naw ohonynt hefyd wedi cael trwydded Ewropeaidd sydd yn caniatau iddyn nhw gystadlu mewn cystadlaethau cyfandirol.
CPD Tref Barri a CPD Met Caerdydd yw’r unig glybiau o adran y de felly sydd wedi cael trwydded i chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf, a nhw yw’r ddau dîm ar frig y tabl ar hyn o bryd.
CPD Derwyddon Cefn, sydd yn drydydd yn y tabl, a CPD Tref Fflint sy’n 10fed, yw’r unig glybiau o gynghrair y gogledd sydd wedi cael y drwydded.
Trwyddedau domestig 2016/17
Aberystwyth, Airbus UK, Bala, Bangor, Tref Barri, Met Caerdydd, Caerfyrddin, Derwyddon Cefn, Tref Fflint, Gap Cei Cona, Hwlffordd, Mbi Llandudno, Y Drenewydd, Y Rhyl, Y Seintiau Newydd
Trwyddedau Ewropeaidd 2016/17
Aberystwyth, Airbus UK, Bala, Bangor, Caerfyrddin, Gap Cei Cona, Mbi Llandudno, Y Drenewydd, Y Seintiau Newydd