Mae cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones wedi gadael y clwb ar ôl cyfnod i ffwrdd oherwydd salwch.

Mae cyn-gapten Cymru Kingsley Jones wedi ei roi yng ngofal y Dreigiau tan ddiwedd y tymor.

Mae’r rhanbarth Cymreig wedi colli eu wyth gêm Pro12 diwethaf, gan eu gadael yn 10fed yn y tabl a dim ond y ddau dîm o’r Eidal oddi tanynt.

Ond mae ganddyn nhw gyfle eto i ennill tlws y tymor hwn gan eu bod nhw’n teithio i Ffrainc i herio Montpellier yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop ddydd Sadwrn.

Dywedodd prif weithredwr y Dreigiau Stuart Davies, yn dilyn absenoldeb Lyn Jones, eu bod nhw ill dau wedi penderfynu y byddai llais newydd wrth y llyw yn well i’r rhanbarth.

Dywedodd Lyn Jones ei fod wedi mwynhau ei dair blynedd gyda’r Dreigiau ond bod yr amser yn teimlo’n iawn iddo gamu o’r neilltu.