'Estyn am y sêr' yw nod Leanne Wood yn yr etholiad yma
Yn y trydydd mewn cyfres o gyfweliadau ag arweinwyr y pleidiau yng Nghymru cyn etholiadau’r Cynulliad, Iolo Cheung fu’n holi Leanne Wood o Blaid Cymru
Ar ôl treulio dros ddwy flynedd yn llunio’i maniffesto ar gyfer etholiadau’r Cynulliad eleni, doedd hi ddim yn syndod gweld brwdfrydedd Plaid Cymru wrth iddyn nhw fod y cyntaf i gyhoeddi’u dogfen.
Bu tipyn o fwrlwm a chanmol – yn naturiol – ymysg selogion y blaid pan ryddhawyd y ddogfen y mae arweinydd y blaid wedi’i ddisgrifio fel eu “cynllun fwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn” i arwain y llywodraeth yng Nghymru.
Ond pa mor bwysig yw maniffesto mewn gwirionedd? Faint o etholwyr sydd wir yn eu darllen, a fydd yn bwrw’u pleidlais yn seiliedig ar gynnwys y ddogfen liwgar pan mae’n dod at yr etholiad?
Mae Leanne Wood yn gwybod mai’r unig ras fydd yn cyfrif mewn gwirionedd yw hwnnw ar y 5 Mai, gyda’r cenedlaetholwyr yn gobeithio am ganlyniad gwell eleni ar ôl dod yn drydydd mewn etholiad Cynulliad am y tro cyntaf yn 2011.
Ac ar ôl methu â chynyddu nifer eu seddi yn yr etholiad cyffredinol llynedd er gwaethaf tipyn o sylw i’r arweinydd o’r Rhondda ar y cyfryngau, mae hi’n gwybod bod pwysau arni i ddangos cynnydd nawr bod y sylw wedi troi at Fae Caerdydd.
“Mae’r ddau bôl diwethaf wedi bod yn galonogol, rydyn ni’n mynd i’r cyfeiriad iawn,” mynnodd Leanne Wood wrth golwg360.
“Llafur sydd ar y brig o hyd, ond maen nhw’n colli cefnogaeth. Mae rhywfaint o amser ar ôl o’r ymgyrch ac fe ddylen ni weld rhywfaint o newid – fel arall, beth yw’r pwynt cael etholiad!
“Dw i ddim yn derbyn bod unrhyw beth anochel am y canlyniad. Beth sydd ei angen yw newid mewn llywodraeth, rydyn ni wedi cael 17 mlynedd o Lafur yn arwain y llywodraeth yng Nghymru ac fe allwn ni wneud cymaint yn well. Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi rhedeg allan o syniadau.
“Dw i’n falch o’n maniffesto a’r tîm rydyn ni wedi’i adeiladu … a beth ddysgon ni o’r etholiad diwethaf oedd na ddylen ni roi gormod o sylw i beth mae’r polau’n ei ddweud!”
Gwerthu i’r byd
Tra bod y Ceidwadwyr yn treulio tipyn o’u hamser yn herio’r llywodraeth Lafur presennol ar ei record ym maes iechyd, yr economi sydd yn taro rhywun fel y rhan greiddiol o neges Plaid Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae pethau’n edrych yn gymharol dda ar hyn o bryd, gyda diweithdra ar i lawr a mwy o fuddsoddi nac erioed gan gwmnïau rhyngwladol.
Ond nid da lle gellir gwell yw neges Plaid Cymru, sydd yn mynnu y byddai atgyfodi corff tebyg i Awdurdod Datblygu Cymru “ar gyfer yr 21ain Ganrif” yn ffordd i gau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Roedd y WDA yn frand oedd yn cael ei adnabod ar draws y byd. Mae rhai agweddau ohono na fydden ni eisiau ailgyflwyno, felly d’yn ni ddim yn sôn am ddod â’r WDA nôl fel ag yr oedd e,” meddai Leanne Wood.
“Ond mae angen rhyw fath o gorff i’r llywodraeth a Chymru gyflwyno’i hun i wledydd eraill, yn gyntaf fel lle da i ddod a gwneud busnes, ond yn ail er mwyn hyrwyddo’r math o gwmnïau sydd yn gwneud yn dda yng Nghymru a sicrhau ein bod ni’n gallu allforio mwy.
“Mae cymaint am Gymru sydd wedi’i guddio, a phan oedd y WDA yn bodoli, roedden ni’n llwyddo i werthu Cymru fel brand unigryw, felly d’yn ni eisiau dod â’r egwyddor hwnnw nôl eto.
“Mae ein GVA ni [mesuriad o faint yr economi] yn 71% o lefel cyfartalog y Deyrnas Unedig. Mae hynny yn ei hun yn dweud wrthym ni bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo Cymru y tu hwnt i’n ffiniau.”
‘Dim ymddiheuriad’ dros ffioedd dysgu
Buan y daw hi’n glir, wrth drafod rhai o’r meysydd eraill y mae gan y Cynulliad bwerau drosti, fod llawer o atebion Plaid Cymru yn dod yn ôl at yr economi mewn rhyw fodd neu’i gilydd yn y bôn.
Daw hyn yn amlwg wrth i ni drafod addysg, ac un polisi ble mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn mynd yn groes i’r pleidiau eraill yn y Cynulliad – y grant ffioedd dysgu.
Y cenedlaetholwyr yw’r unig rai sydd am weld newid i’r drefn fyddai’n gwahaniaethu rhwng myfyrwyr sydd yn astudio yng Nghymru a’r rheiny oedd yn gadael am brifysgolion dros y ffin.
Byddai’r rheiny sydd yn aros yn derbyn grant i ad-dalu’r rhan fwyaf o’u ffioedd – ond fyddai’r grant hwnnw ddim ond yn cael ei roi i’r alltudion petawn nhw’n dychwelyd i Gymru i weithio ar ôl graddio.
Mae’n bolisi sydd yn hollti barn, gyda phryder y gallai arwain at ddychryn rhai myfyrwyr rhag ehangu’u gorwelion wrth ddilyn cyrsiau gwell dros y ffin, a dim sicrwydd y byddan nhw’n gallu dychwelyd i Gymru i weithio yn y maes hwnnw yn y dyfodol.
Yr unig beth all Leanne Wood ei gynnig ar hyn o bryd yw addewid y bydd y polisi ffioedd hwnnw’n cydredeg â chryfhau’r economi fel bod mwy o swyddi sgiliau uchel ac arbenigol yn dod i Gymru.
“Dydw i ddim yn ymddiheuro am fod eisiau defnyddio adnoddau cyhoeddus a chyllideb brin y Cynulliad i geisio cyrraedd amcanion economaidd,” meddai.
“Mae gormod o bobol ifanc yn gorfod gadael y wlad yma gan nad oes cyfleoedd economaidd yma.
“Rydyn ni eisiau buddsoddi yn sgiliau’r bobol ifanc yna, ond er mwyn gweld gwerth y buddsoddiad yna rydyn ni eisiau iddyn nhw ddod nôl i Gymru i weithio a chyfrannu i goffrau trethi Cymru, ac os wnawn nhw hynny fe wnawn ni ad-dalu rhai o’u ffioedd.
“Ond os ydyn nhw’n gallu gwneud mwy o arian yn rhywle arall, fe gawn nhw dalu mwy ar eu ffioedd – dyw hi ddim yn iawn fod Llywodraeth Cymru’n rhoi cymhorthdal i fyfyrwyr i fynd oddi yma pan mae eu hangen nhw arnom ni yma.”
Trafod arbedion
Allwn ni ddim trafod yr etholiad Cynulliad yma fodd bynnag heb droi ein sylw at iechyd, un arall o’r meysydd ble mae brwydro a ffraeo ffyrnig dros ei dyfodol.
Mae cynlluniau Plaid Cymru yn cynnwys ad-drefnu’r awdurdodau iechyd, diddymu ffioedd ar gyfer gofal yn y cartref a’r rheiny â dementia, a chyflogi 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ychwanegol er mwyn taclo rhestrau aros hir.
Ond un addewid yn eu maniffesto ddenodd tipyn o sylw oedd hwnnw i wneud £300m o ‘arbedion’ yn y gwasanaeth iechyd – toriad mewn gwirionedd, meddai’r Blaid Lafur; celwydd, meddai’r Blaid yn eu hymateb.
Yn ôl Leanne Wood, fodd bynnag, mae’n “rhaid i ni gael y sgwrs yna” bellach ynglŷn â sut mae modd gwario cyllideb bresennol y gwasanaeth iechyd yn well – a hynny ar bethau mor syml â gwariant ar fenig rwber, neu lenwi bylchau mewn rhestrau aros llawfeddygol.
“Mae modd i ni ddod o hyd i ffyrdd weddol syml o wario arian yn fwy effeithlon,” mynnodd.
“Mae pethau bach drwy gydol y system ble mae modd gwneud arbedion ac fe wnaeth Adolygiad Carter yn Lloegr adnabod y rheiny.
“Rydyn ni eisiau gweithredu’r un egwyddor yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru. Edrych ar bob peth, siarad â’r holl weithwyr a chleifion er mwyn gweld beth yw’r newidiadau bach yna mae modd eu gwneud yn y system er mwyn gwneud yr arbedion hynny.
“Achos maen nhw’n dweud wrtha i eu bod nhw’n gallu gweld bod gwastraff yno.”
‘Anelu am y sêr’
Ar ôl bod mewn llywodraeth unwaith o’r blaen rhwng 2007 a 2011, fel partner iau’r glymblaid â Llafur, y dyfalu ymysg rhai yw y gallai Plaid Cymru ailgydio’r berthynas honno ar ôl mis Mai os nad oes unrhyw un yn ennill mwyafrif.
Er gwaethaf y diffyg awydd ymysg Plaid Cymru i weld hynny’n digwydd dyw Leanne Wood ddim wedi diystyru’r opsiwn – yn wahanol i’w haddewid blaenorol i wrthod gweithio â’r Ceidwadwyr.
“Dw i ddim yn bwriadu mynd nôl ar fy ngair,” meddai yn bendant.
“Mae popeth arall ar y bwrdd. Dw i eisiau gweld cymaint o faniffesto Plaid Cymru’n cael ei weithredu â phosib. Ond dw i ddim eisiau gweld clymblaid ar ôl yr etholiad, dw i eisiau mandad gan bobol i weithredu cynllun llywodraeth Plaid Cymru.”
Bod y blaid fwyaf yn Senedd yw ei nod hi ar ôl 5 Mai – tasg sydd yn edrych y tu hwnt iddyn nhw ar hyn o bryd, gydag 11 Aelod Cynulliad o’i gymharu â 30 y Blaid Lafur, a’r pôl diweddaraf yn darogan cynnydd o ddim ond un aelod.
A oes perygl felly mai dim ond achosi siom – a hyd yn oed creu anghydfod – o fewn y blaid fyddai gosod targed rhy uchel ac yna methu â’i chyrraedd?
“Y broblem yng Nghymru yw’n bod ni’n gosod y bar yn rhy isel fel arfer er mwyn sicrhau ein bod ni’n ei gyrraedd,” mynnodd Leanne Wood.
“Dw i eisiau estyn am y sêr, dw i eisiau i ni gyrraedd ein llawn botensial fel gwlad.
“Dw i ddim am ymddiheuro felly am osod uchelgais a disgwyliadau uchel yn yr etholiad yma, mae’n rhaid i chi anelu am y brig neu fel arall ewch chi ddim i unman.”
Gallwch ddarllen y cyfweliadau blaenorol yn y gyfres gydag Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol drwy ddilyn y dolenni.